Llun o wefan Heddlu Gogledd Cymru
Mae tri o bobol wedi cael eu lladd mewn damwain rhwng dau gar yn Nyffryn Conwy neithiwr.
Fe ddaeth y cyhoeddiad gan Heddlu Gogledd Cymru y bore yma – roedd y gwrthdrawiad wedi digwydd tua chwarter i naw neithiwr.
Fe ddigwyddodd yn agos at bentre’ Tal-y-bont ar ffordd y B5106 sy’n mynd hyd ochr orllewinol y dyffryn o Gonwy i Lanrwst.
Mae’r heddlu’n apelio am wybodaeth gan bobol a oedd yn yr ardal ar y pryd, gan ofyn iddyn nhw gysylltu gyda’r Uned Plismona’r Ffyrdd yn Llanelwy ar 101 neu ar Taclo’r Tacle ar 0800 555 111 gan defnyddio’r cyfeirnod S166072.
Does dim rhagor o wybodaeth ar hyn o bryd am y tri a fu farw.