Jill Evans ASE yn arwyddo 'tarw' er mwyn ceisio dod ag ymladd teirw i ben yn Ewrop
Mae Aelod Seneddol Ewrop o Gymru wedi galw am ddod â chymorthdaliadau ar gyfer yr arfer o ymladd teirw i ben.

Ar hyn o bryd, mae ffermwyr sy’n magu teirw er mwyn eu defnyddio ar gyfer ymladd yn cael cymhorthdal gan yr Undeb Ewropeaidd.

Bydd Senedd Ewrop yn pleidleisio ar gyllideb yr UE heddiw, sy’n cynnwys ariannu amaeth, ac mae Jill Evans ASE o Blaid Cymru wedi cynnig gwelliant sy’n galw am roi’r gorau i’r cymorthdaliadau i’r ffermwyr hyn.

Fe ddywedodd ei bod hi’n gwrthwynebu rhoi arian ar gyfer bridio teirw er mwyn ymladd, gan ddisgrifio’r arfer, sy’n boblogaidd yng ngwledydd fel Sbaen a Phortiwgal, fel un “creulon a diangen sy’n achosi dioddefaint mawr i anifeiliaid yn enw adloniant.”

Annog ei hetholwyr i lofnodi deiseb

Wrth annog ei hetholwyr i lofnodi deiseb yn galw am ddod ag ymladd teirw i ben yn Ewrop, dywedodd Jill Evans, ei bod wedi derbyn “yn agos at 1,000” o e-byst yn gofyn iddi bleidleisio yn erbyn rhoi’r cymorthdaliadau.

“Anogaf bawb sydd yn teimlo’n gryf ynglŷn â’r mater hyn i lofnodi deiseb fy ngrŵp ar www.animalrights.eu/bullfighting a thrwy ysgrifennu at eu Haelodau Seneddol Ewropeaidd,” meddai.

“Mae gwrthwynebiad tuag at ymladd teirw yn cynyddu. Does gan yr Undeb Ewropeaidd y grym i’w wahardd ond fe all roi’r gorau i dalu cymorthdaliadau sydd yn ei gefnogi’n anuniongyrchol.”

Yn ôl y gwleidydd, mae ymladd teirw yn ‘mynd yn groes’ i’r Confensiwn Ewropeaidd dros Amddiffyn Anifeiliaid.

“Bwriad nawdd amaethyddol yw cefnogi ffermwyr, fel y sawl sydd yng Nghymru, sydd yn gynhyrchwyr bwyd allweddol ac yn ofalwyr dros gefn gwlad. Gobeithiaf y gallwn gael digon o gefnogaeth y tro hwn er mwyn ennill y bleidlais.”