Mae sefyllfa swyddog gofal plant o dde Cymru yn cael sylw ym mhapur newydd y Guardian heddiw, wrth iddi egluro sut y bydd toriadau mewn credydau treth gan y llywodraeth Dorïaidd yn Llundain yn cael effaith ar bobol ar lawr gwlad trwy wledydd Prydain.

Mae gan Donna Hanson, 42, ferch 11 oed, ac mae’n gweithio mewn cartref gofal yn ne Cymru. Dan drefn newydd y Canghellor, George Osborne, mae’n dweud  bydd hi’n colli £1,715 bob blwyddyn. Erbyn 2020, fe fydd cyfanswm ei cholledion ariannol yn £7,000, yn ôl syms ei hundeb, Unison.

“Mae’n mynd i gael effaith arnon ni,” meddai Donna Hanson yn y papur heddiw. “Fe fydd yn gwneud y gwahaniaeth rhwng gallu dod â dau ben llinyn ynghyd, a methu.

“Mae’n codi ofn arna’ i i feddwl na fydd y credydau yno y flwyddyn nesa’…

“A dweud y gwir, sa’ i isie i’r flwyddyn newydd ddod, oherwydd fydd mis Ebrill ddim ond rownd y cornel wedyn… a sa’ i’n gwybod beth fyddwn ni’n wneud.”