Bydd ymgynghoriad ar gau depo sy’n dosbarthu llaeth y cwmni First Milk yn Felinfach, Ceredigion ddechrau’r wythnos nesa’.

Os bydd y depo’n cau, bydd 12 o bobl yn colli eu gwaith ac mae wedi cael ei ddisgrifio fel ergyd i’r ardal.

Doedd First Milk ddim am wneud sylw ond fe wnaeth golwg360 siarad â llefarydd ar ran Bibby Distribution, sy’n rhedeg y safle.

“Yn dilyn newidiadau yn y diwydiant llaeth yng ngorllewin Cymru, rydym yn adolygu ein gwaith yn depo First Milk yn Felinfach, ac rydym wedi lansio cyfnod o ymgynghori gyda’r 12 o staff sydd wedi cael eu heffeithio,” meddai.

“Os bydd newidiadau yn digwydd, byddan nhw ddim yn [dod i rym] nes diwedd mis Ionawr 2016 a bydd Bibby Distribution bob amser yn ceisio symud aelodau’r tîm [i safle arall] pan fo’n bosib.”

Doedd gweithwyr y safle ddim am wneud sylw tan i’r ymgynghoriad gau.

Rhagor o golli swyddi dan adain First Milk

Ym mis Mai 2015, fe wnaeth Prif Weithredwr newydd First Milk gyhoeddi cynllun “turnaround” i ddiswyddo 70 o bobl ar wyth o safleoedd y cwmni.

Fe wnaeth cadeirydd First Milk, Syr Jim Paice, benderfynu sefyll i lawr ar ôl cyhoeddi’r diswyddiadau.

Hufenfeydd yn yr Alban gafodd eu taro waethaf gan y cynllun hwn, gyda’r hufenfa yn Hwlffordd, yr unig un yng Nghymru sydd ar ôl bellach, yn aros yn un o safleoedd craidd y cynllun, ynghyd â hufenfa yn Ardal y Llynnoedd.

Yn 2010, fe gollodd saith o bobl eu gwaith yn Hwlffordd, ac 11 yn Ardal y Llynnoedd, fel rhan o ymgyrch y cwmni i gryfhau ei gynhyrchiant caws.

Yn dilyn cyhoeddi’r cynllun i ddiswyddo ym mis Mai 2015, dywedodd First Milk mai nid canolbwyntio ar wneud y safleoedd yn llwyddiant masnachol yn unig oedd y bwriad, ond sicrhau bod y llaeth sy’n dod i mewn yn mynd i gynhyrchu y math o gynnyrch sy’n gwneud y mwyaf o elw.

Gostwng pris llaeth

Ym mis Ionawr 2015 roedd First Milk wedi cynddeiriogi ffermwyr trwy ostwng y pris maen nhw’n ei dalu am bob litr o laeth.

A phan groesawodd First Milk y datganiad gan gwmni Tesco ym mis Mehefin eleni y byddai’n talu mwy am laeth ffermwyr, fe benderfynodd y cwmni na fyddai’n trosglwyddo’r cynnydd i bob un o’i gyflenwyr – ond roedd ffermwyr oedd yn cyflenwi safle Hwlffordd am gael y pris newydd ganddo.