Kath a Stacey o Pobol y Cwm
Mae S4C yn dweud bod ganddyn nhw anrheg Nadolig cynnar i’w gwylwyr, sef pennod ychwanegol wythnosol o Pobol y Cwm.

Dros yr Haf roedd y Sianel Gymraeg yn cyhoeddi fod pumed pennod o’r opera sebon yn dychwelyd ar nosweithiau Mercher, a bydd y cyntaf o’r rheiny am wyth ar Ragfyr 16.

Yn ôl S4C: “Bydd y bumed bennod yn ddechrau ar gyfnod cynhyrfus o straeon gafaelgar a fydd yn gweld ambell gymeriad eiconig yn dychwelyd i Gwmderi ar adeg pen-blwydd yr opera sebon fytholwyrdd yn 41 oed.”

Dywedodd Cynhyrchydd Cyfres Pobol y Cwm, Llŷr Morus: “Bydd nifer o hen wynebau cyfarwydd yn dychwelyd sy’n siŵr o gynhyrfu’r dyfroedd – neu a ddylwn i ddweud cynhyrfu’r tyrcwn. A bydd nifer o straeon pwerus eraill yn dod i ben dros gyfnod y Nadolig. Mae angen pum noson i’w gwasgu nhw i gyd i mewn.”