Plas Glynllifon
Mae Cwmni Gwestai MBI o Halifax am barhau i ddefnyddio’r enw Wynnborn fel rhan o’i ymgyrch farchnata i ddenu buddsoddwyr i Blas Glynllifon ger Caernarfon, er gwaethaf ymateb chwyrn yn lleol.

Yn dilyn yr adwaith fod y cwmni am ddefnyddio’r enw, fe ddaeth yn amlwg fod MBI yr wythnos diwethaf wedi tynnu’r deunydd o’r wefan ond erbyn hyn, mae’r deunydd marchnata am Wynnborn yn ei ôl.

Mae’r Cynghorydd lleol ac ymgeisydd Plaid Cymru yn Arfon ar gyfer etholiadau’r Cynulliad y flwyddyn nesaf, Siân Gwenllian yn galw ar y cwmni i dynnu’r deunydd marchnata oddi ar y wefan.

‘Annerbyniol’

Dywedodd:  “Dydy hyn ddim yn dderbyniol. Mae’r cyhoedd wedi colli ffydd yn y cwmni yn barod ar ôl datgan un peth wythnos ddiwethaf yn sgil y gwrthwynebiad gan dynnu’r dudalen marchnata i ffwrdd, ag yna ail-gyhoeddi’r wefan, gyda’r un manylion yn union gan gynnwys Wynnborn Mansion, yr wythnos yma!

“Mae Rightmove hefyd yn defnyddio Wynnborn Mansion yn eu marchnata.”

Mae’r cynghorydd sy’n cynrychioli ward Y Felinheli, yn bwriadu codi’r mater gyda phwyllgor iaith Cyngor Gwynedd ac wedi gofyn am gyfarfod pellach gyda’r cwmni.

“Dydy Wynnborn ddim yn dderbyniol: nid dyna enw Plas Glynllifon. Mae’r enw yn f’atgoffa o Glyndebourne a Downton Abbey ac yn creu delwedd hollol ffug o fywyd oes Fictoria foethus  – nid y math o fywyd caled y byddai cyn-weithwyr Glynllifon yn gyfarwydd ag o.

“Mae hefyd yn Seisnig ei naws, yn gwbl anghydnaws a’r rhan arbennig yma o Gymru.”

Deiseb

Mae deiseb wedi’i lansio yn lleol sydd wedi denu dros 500 o lofnodion yn gwrthwynebu enwi Plas Glynllifon yn Wynnborn.

Cafodd y plasty presennol ei adeiladu yn y cyfnod 1836 – 49 a chafodd tiroedd ffurfiol a gerddi’r stad eu datblygu o’r cyfnod yma ymlaen. Wedi’r Ail Ryfel Byd ac yn dilyn toll marwolaeth a newidiadau cymdeithasol cafodd rhan helaeth o’r stad ei werthu ym 1948 i fasnachwyr coed. Ym 1952 cafodd tiroedd y stad eu gwerthu i Gyngor Sir Caernarfon ar gyfer coleg amaethyddol.

Cafodd gweithdai’r stad eu cadw gan yr Arglwydd Niwbwrch hyd at 1987 pan gawson nhw eu gwerthu i’r Cyngor – erbyn hyn yn Gyngor Gwynedd.

Ym 1995 daeth Coleg Meirion-Dwyfor yn gyfrifol am Goleg Glynllifon a rhannwyd y stad rhwng Coleg Meirion-Dwyfor a’r Cyngor. Yn ddiweddarach, gwerthodd y Coleg y plasty a’i erddi i gwmni preifat Glynllifon Limited.

Mae Golwg360 wedi gofyn am ymateb gan gwmni MBI.