Mae’n hanner canrif i’r diwrnod ers agor argae Tryweryn, ar ôl boddi pentre’ Capel Celyn i roi dŵr i ddinas Lerpwl.
Roedd gwrthwynebiad chwyrn i’r cynllun ar y pryd, gyda phob un o Aelodau Seneddol Cymru, namyn un yn pleidleisio yn ei erbyn.
Bu cryn dipyn o brotestio gan bobl leol ac o rannau eraill o Gymru hefyd, yn y safle lle’r oedd yr argae yn cael ei adeiladu ac yn Lerpwl ei hun.
Er bod y protestio ar y pryd wedi bod yn aflwyddiannus, mae achos Tryweryn yn cael ei weld fel “deffroad” yn hanes cenedlaetholdeb Cymreig a Chymraeg, wedi i 12 fferm, y capel, a’r ysgol gael eu boddi, a 70 o bobol gael eu gorfodi o’u cartrefi lle bellach mae’r llyn.
‘Atgofion chwerw’
Dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones mewn datganiad i’r Post Cyntaf ar BBC Radio Cymru bore ‘ma fod, “sarhad Tryweryn yn dal yn fyw yng nghof y Cymry.”
Ond awgrymodd na all rhywbeth tebyg ddigwydd eto gan fod “gan Gymru ei llais cryf a phendant ei hun, yn wahanol i’r hyn oedd yn bodoli hanner canrif yn ôl (yn sgil datganoli).”
Bu rali ddydd Sadwrn diwethaf ar safle’r argae lle ddaeth tua 400 o bobl ynghyd i gofio boddi’r cwm.
“Daeth ag atgofion chwerw yn ôl i lawer fu ar yr argae gyda ni, ond roedd hi’n hollbwysig ein bod ni’n nodi’r achlysur,” meddai’r Cynghorydd Elwyn Edwards o Blaid Cymru wrth siarad ar ôl y rali.
“Diolch i dros 400 o bobl ddaeth draw i Dryweryn i gofio’r aberth, y golled a’r cam a wnaed â’r cwm bychan yma, fel cymoedd eraill yng Nghymru yn y gorffennol.
“Parhawn â’r frwydr i sicrhau mai Cymru ei hun gaiff yr hawl i benderfynu ar ddyfodol ein tir a’n daear.”