T Llew Jones (CCA 3.0)
Mae gwefan addysg newydd yn cael ei lansio heddiw yn dathlu gwaith un o lenorion enwoca’ Cymru, T. Llew Jones, adeg canmlwyddiant ei eni.

Mae’r prosiect gan gwmni Telesgop, ar ôl ennill tendr gan Lywodraeth Cymru, yn cynnwys adnoddau ar gyfer athrawon a disgyblion Cyfnod Allweddol 2 a 3, rhwng 7 a 14 oed.

Fe fydd y rhain yn cynnwys gweithgareddau sy’n seiliedig ar waith T. Llew Jones, wedi’u creu gan yr awduron Tudur Dylan Jones, Aled Richards a Christa Richardson, a llinell amser ryngweithiol ar fywyd y llenor a’r hyn ddigwyddodd yng Nghymru, Prydain a’r Byd yn yr un cyfnod.

‘Rhywbeth parhaol i blant ddathlu T.Llew’

Mae’r wefan wedi cael ei chreu er mwyn “sicrhau etifeddiaeth” yn sglil dathliadau canmlwyddiant geni T. Llew Jones.

“Doedd dim llawer o adnoddau ar waith T. Llew ar gael,” meddai Elin Mair o gwmni teledu Telesgop “Felly, mae’r wefan yn gyfle i nodi’r canmlwyddiant ond hefyd i greu rhywbeth parhaol i blant ddathlu diwrnod T. Llew bob blwyddyn.”

Fe fydd y wefan hefyd yn cynnwys amryw o glipiau fideo sy’n trafod gwaith yr awdur a’r bardd a ffilm fer sy’n cael ei chyflwyno gan or-ŵyr T. Llew, Dafydd Llywelyn.

Mae’r lansio’n digwydd yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth yng nghwmni’r bardd Aneirin Karadog a oedd yn rhan o greu’r ffilm, ac Emyr Llywelyn, un o feibion y llenor.

Cewch y wefan yma www.tllew.cymru