Mae Heddlu’r De wedi cadarnhau bod cwpl oedrannus, y cafwyd hyd i’w cyrff yn eu cartref yn Rhondda Cynon Taf, wedi marw o achosion naturiol.

Cafwyd hyd i Mary Jenkins, 77, ac Anthony Jenkins, 78, yn eu cartref yn Ffordd Ynyswen, Treorci fore dydd Mawrth.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu’r De nad ydyn nhw’n trin eu marwolaethau fel rhai amheus yn dilyn archwiliad post mortem heddiw.

Ychwanegodd y llefarydd bod y teulu wedi cael gwybod a bod eu meddyliau gyda nhw yn ystod y cyfnod anodd hwn.