Mae Gweinidog Addysg Cymru  wedi cyhoeddi ei fwriad heddiw i ddod â’r system bresennol o ddarparu addysg a hyfforddiant cychwynnol i athrawon i ben.

Mae hyfforddiant cychwynnol, sef yr hyn mae darpar athrawon yn ei gael cyn symud ymlaen i’r cwrs ymarfer dysgu, yn cael ei ddarparu mewn tair canolfan ar draws Cymru ar hyn o bryd.

Y tair canolfan yw Canolfan Addysg Athrawon Gogledd a Chanolbarth Cymru, Canolfan Addysg Athrawon De-Orllewin Cymru a Chanolfan Addysg Athrawon De-Ddwyrain Cymru.

Adroddiad Estyn yn ‘siomedig iawn’

Daw cyhoeddiad Huw Lewis, yn dilyn adroddiad “siomedig iawn” gan Estyn am y Ganolfan yn y Gogledd a’r Canolbarth sy’n cael ei rhannu rhwng Prifysgol Bangor a Phrifysgol Aberystwyth.

Roedd yr adroddiad yn nodi sawl pryder gan ddweud nad oedd y ganolfan yn cydymffurfio â’r gofynion statudol sy’n ddisgwyliedig ohoni a bod ei pherfformiad â’i rhagolygon i wella yn “anfoddhaol.”

“Mae tua dwy flynedd wedi mynd heibio ers i’r diffygion yn narpariaeth Canolfan Addysg Athrawon Gogledd a Chanolbarth Cymru gael eu nodi ac y gofynnwyd iddi wella’r ddarpariaeth honno. Dyw hyn ddim yn ddigon da,” meddai’r Gweinidog Addysg, Huw Lewis.

“Wedi darllen yr adroddiad hwn, does dim amheuaeth gennyf fod angen gwneud mwy i gyflymu’r broses o wella’r ddarpariaeth HAGA (addysg gychwynnol i athrawon) ledled Cymru gyfan.”

Creu “cynllun gwella”

Dywedodd hefyd y byddai’n cyfarfod ag Is-gangellorion y canolfannau ym mis Tachwedd, gan “wneud yn glir” ei fod am ddod â’r system bresennol o hyfforddiant cychwynnol i athrawon yng Nghymru i ben.

“Byddaf yn mabwysiadu cynllun gwella penodol iawn a fydd yn cael ei gynllunio a’i ddarparu i bob rhan o’r system addysg.”

Dywedodd y byddai’n rhaid bod yn “drylwyr” wrth ddiwygio’r system ac roedd am sicrhau bod canolfannau HAGA yn cydweithio’n “fwy effeithiol”. Roedd am weld fwy o bartneriaeth hefyd rhwng y canolfannau ac awdurdodau lleol ac ysgolion a “bod mwy o ddysgu gan y goreuon mewn mannau eraill a bod mwy o herio” yn digwydd.

“Bydd HAGA yng Nghymru’n wahanol iawn. Os bydd canolfan HAGA wir am gydweithio gyda ni, wedyn mae’r drws ar agor iddyn nhw wneud hynny – ond os nad yw’n barod i fynd ati o ddifrif i wella, wedyn ni fydd yn rhan o’n gweledigaeth ar gyfer Cymru yn y dyfodol.”

Cyhoeddodd y Gweinidog y byddai’n cynnal dwy uwch-gynhadledd, ym mis Rhagfyr a mis Ionawr i annog y sector HAGA i “ymateb i’r her” o gyflwyno’r newidiadau sydd eu hangen.