Mohammed Ashgar
Fe fydd dau Aelod Cynulliad Ceidwadol yn gorfod wynebu brwydr i gael eu henwebu eto fel ymgeisydd eu plaid ar gyfer etholiadau’r Cynulliad ar ôl methu â sicrhau lle yn awtomatig.

Ar hyn o bryd mae William Graham a Mohammad Asghar yn ACau Ceidwadol dros Dde Ddwyrain Cymru, a’r ddau wedi bwriadu sefyll eto yn etholiad y flwyddyn nesaf.

Ond dyw’r un ohonyn nhw wedi llwyddo i sicrhau enwebiad awtomatig gan gangen leol eu plaid, gan olygu y byddan nhw’n gorfod wynebu proses ddewis agored yr wythnos nesaf.

Mae’r broses hwnnw yn cael ei ddefnyddio i ddewis trefn yr ymgeiswyr ar restr ranbarthol y blaid, gyda dim ond y rhai ar frig y rhestr o bedwar â siawns realistig o gael eu hethol i’r Cynulliad.

Lle i’r ddau?

Mae’n debyg bod gan Geidwadwyr Cymru’r hawl i wyrdroi penderfyniad y gangen leol ar beidio ag ailddewis William Graham a Mohammad Asghar yn awtomatig.

Ond mae un ffynhonnell o’r blaid eisoes wedi dweud y byddai hynny’n hollol annerbyniol i aelodau’r blaid, yn ôl WalesOnline.

Mae’n golygu y bydd y broses wythnos nesaf yn agored i unrhyw aelod o’r blaid, gan olygu posibilrwydd y bydd y Ceidwadwyr yn dewis ymgeiswyr gwahanol ar eu rhestr ranbarthol ar gyfer 2016.

Yn etholiad Cynulliad 2011 fe enillodd y Ceidwadwyr a Phlaid Cymru ddwy sedd yr un yn rhanbarth De Ddwyrain Cymru, ond mae disgwyl y bydd UKIP ymysg eraill yn cystadlu am o leiaf un o’r seddi rhanbarthol hynny’r flwyddyn nesaf.