Addasiad ffilm arloesol o ddrama Dylan Thomas, Dan y Wenallt yw cynnig y Deyrnas Unedig ar gyfer enwebiad yn y categori Ffilm Iaith Dramor Orau yn seremoni’r Oscars y flwyddyn nesa’.

Dan y Wenallt, a gynhyrchwyd gan y cwmni teledu fFatti fFilms o dan y cyfarwyddwr Kevin Allen, yw cynnig BAFTA ar gyfer seremoni wobrwyo Academi America 2016.

Gyda Rhys Ifans a Charlotte Church yn y cast, fe fu’r ar daith sinemâu a theatrau ledled Cymru ym mis Rhagfyr 2014, ac roedd hi hefyd yn ganolbwynt dathliadau S4C i nodi canmlwyddiant geni’r bardd Dylan Thomas yn Nadolig y llynedd. Fe fydd yr addasiad Saesneg, ‘Under Milk Wood’ ar daith sinemâu ar draws y DU o 30 Hydref i nodi diwedd dathliadau canmlwyddiant geni’r cawr llenyddol o Abertawe.

Mae’n ddehongliad gweledol cyffrous, swreal ac erotig o’r ddrama radio enwog. Mae’r fersiwn Gymraeg wedi’i chyfieithu a’i haddasu gan y bardd a’r awdur T James Jones.

“Rwy’ wrth fy modd i glywed mai Dan y Wenallt yw cynnig swyddogol y DU ar gyfer ffilm Oscar iaith dramor,” meddai Kevin Allan. “Mae’n hwb aruthrol i’r addasiadau cefn-wrth-gefn Dan y Wenallt / Under Milk Wood, a hoffwn ddiolch i BAFTA am ein dewis ni.”

Gall gwledydd unigol gyflwyno un ffilm iaith dramor yr un ar gyfer yr 88fed Gwobrau’r Academi am y Ffilm Iaith Dramor Orau. Bydd y cynigion yn cael eu lleihau i restr fer o naw o geisiadau ym mis Rhagfyr ac yna bydd y pum enwebiad terfynol yn cael eu cyhoeddi ym mis Ionawr 2016, ychydig wythnosau cyn y seremoni Oscars yn Los Angeles ar 28 Chwefror.

Mae dau o gynigion Ffilm Iaith Dramor S4C wedi arwain at enwebiadau Academi Americanaidd i Hedd Wyn yn 1994, a Solomon a Gaenor yn 2000.