Y Welsh Whisperer
Mae gŵyl gwrw Cyrfe Mawr Tyrfe Tawe, sy’n dychwelyd i Abertawe am y drydedd flwyddyn eleni, yn dechrau yn Nhŷ Tawe heno (Hydref 9) gyda sesiwn werin yng nghwmni René Griffiths o Batagonia.

Bydd yr ŵyl, sy’n cael ei chynnal yn Nhŷ Tawe dros gyfnod o ddeuddydd, yn gyfle i flasu cwrw a seidr lleol – a’r arlwy yn cynnwys cwrw a seidr o Abertawe, Penrhyn Gŵyr, Casnewydd, Llantwit Faerdre, Cwm Rhondda, Porthmadog a Llŷn.

Unwaith eto, fe fydd modd i’r gynulleidfa fynd â’u hoff ddiodydd adref gyda nhw mewn bocsys arbennig ar ddiwedd y dydd.

Adloniant yn y bar newydd

Bydd y cyfan yn dechrau nos Wener gyda sesiwn werin yng nghwmni René Griffiths o Batagonia.

Bydd y noson, sy’n dechrau am wyth o’r gloch, yn cael ei chynnal yn y bar newydd sbon yn Nhŷ Tawe, sydd wedi bod ar agor bob nos Wener dros y misoedd diwethaf wrth baratoi i gynnal yr ŵyl eleni.

Mae’r bar eisoes wedi croesawu digwyddiad i ddathlu lansio llyfr Huw Dylan Owen, Sesiwn yng Nghymru (Y Lolfa), yn ogystal ag ambell noson werin a noson gomedi gydag Elis James.

Fe fydd René Griffiths yn dod â’i gerddoriaeth unigryw i Abertawe, wrth iddo gyfuno’i ddylanwadau Cymreig a Sbaenaidd.

Yn 2010, roedd bywyd y canwr serch dan y chwyddwydr yn y ffilm Seperado, oedd yn serennu’r canwr Gruff Rhys, a aeth i Batagonia i olrhain hanes ei ewythr yn y Wladfa.

Yfory

Ar brynhawn mawr i dîm rygbi Cymru yn erbyn Awstralia ac i’r tîm pêl-droed yn erbyn Bosnia, fe fydd adloniant drwy gydol y prynhawn o 12 o’r gloch ymlaen. Cewch ddilyn y cyfan o fyd y campau ar y sgrin fawr.

Rhwng setiau gan y Welsh Whisperer, Lowri Evans, Bryn Fôn a Yucatan, fe fydd modd cadw llygad ar hynt a helynt Cymru.

Rhagor o wybodaeth ar wefan www.tyrfe.com neu ar y dudalen Twitter, @Cyrfe.