Mae’r ganolfan syrffio yn Nolgarrog, Surf Snowdonia, wedi cyhoeddi y bydd yn cau heddiw dros dymor y gaeaf – a hynny wyth wythnos yn gynnar.

Mae hyn hefyd yn golygu fod cytundebau holl staff tymhorol y ganolfan yn dod i ben yn gynnar – ac fe fydd sawl aelod o staff parhaol yn colli eu gwaith.

Mae’r ganolfan wedi profi nifer o anawsterau ers iddi agor ar 1 Awst. Mae wedi gorfod cau deirgwaith dros y misoedd diwethaf oherwydd problemau technegol gyda’r cyfarpar.

Y tro hwn, mae ‘problem fecanyddol ddifrifol’ gyda’r cyfarpar sy’n creu’r tonnau, ac yn ôl peirianwyr, fe fydd yn cymryd o leia’ dri mis i’w drwsio.

‘Siomedig iawn’

 

Mae hyn yn “newyddion siomedig iawn,” meddai llefarydd ar ran y ganolfan.

“Ond, rydyn ni’n hollol ymrwymedig i wneud Surf Snowdnia yn llwyddiant ysgubol,” ychwanegodd.

Fe esboniodd y llefarydd eu bod nhw’n “bwriadu ailgyflogi nifer o’r bobol arbennig sydd wedi gweithio gyda ni’r tymor hwn”.

Bydd cau’n gynnar yn rhoi cyfle iddyn nhw drwsio’r offer, ac maen nhw’n bwriadu ailagor erbyn gwanwyn 2016 gyda chyfleusterau gwell, meddai’r llefarydd.

Fe fydd Surf Snowdonia yn cysylltu â’r holl gwsmeriaid oedd wedi archebu lle gyda’r ganolfan ac yn cynnig ad-daliadau llawn iddyn nhw.

Mae’r ganolfan wedi derbyn £4 miliwn o grantiau gan Lywodraeth Cymru.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Rydym ni’n rhannu siom y tîm yn Surf Snowdonia, eu cwsmeriaid a’u staff.

“Mae’r atyniad wedi bod yn boblogaidd iawn ers ei lansio ac rydym yn croesawu’r buddsoddiad pellach dros fisoedd y gaeaf ac wedi cael sicrhad y bydd yr atyniad yn dychwelyd yn fwy ac yn well ar gyfer tymor 2016.”