Mae oedi mawr yn y gwasanaeth trenau rhwng Llundain ac Abertawe, wedi i ddyn gael ei daro ar y trac.

Mae pob gwasanaeth i ac o Gaerdydd yn brysurach nag arfer heddiw beth bynnag, wrth i’r ornest rygbi rhwng Cymru a Ffiji gael ei chynnal yn Stadiwm y Mileniwm y brifddinas.

Ond mae’r ddamwain, a ddigwyddodd ar y trac rhwng gorsafoedd Swindon a Bristol Parkway, wedi achosi mwy o oedi i’r rheiny sy’n mynd yn eu blaenau i orsaf Abertawe.