Shaun Edwards a Warren Gatland - wynebu pryderon cynyddol yn sgil anafiadau
Yn gymysg â’r gorfoledd o fod wedi trechu’r Saeson neithiwr mae pryder cynyddol am yr holl anafiadau y mae chwaraewyr Cymru wedi eu dioddef.

Er cystal y fuddugoliaeth 28-25 yn Twickenham, fe wnaeth ail hanner y gêm gostio’n ddrud i Gymru. Dioddefodd y canolwr Scott Williams anaf i’w  ben-glin, yr asgellwr Hallam Amos anaf i’w ysgwydd a chafodd y cefnwr Liam Williams ei daro’n anymwybodol.

“Mae’r staff meddygol yn eu hasesu nhw drwy’r dydd, gyda sganiau ac ati, a dw i’n meddwl y bydd gennym well syniad lle byddwn ni arni erbyn yfory,” meddai Shaun Edwards, hyfforddwr cynorthwyol Cymru.

Ychwanegodd mai Scott Williams ac Amos sy’n peri’r pryder mwyaf ar y funud.

Mae’n ymddangos yn debygol y bydd ar Gymru angen dau chwaraewr i gymryd eu lle yn y gêm yn erbyn Fiji ddydd Iau.

Ymchwiliad

Mae’n bosibl y bydd Cymru’n galw am ymchwiliad swyddogol i’r ffordd y cafodd Liam Williams ei daro yn ei ben gan droed blaenasgellwr Lloegr, Tom Wood.

“Mae’n amlwg fod rhyw gyffyrddiad rhwng Tom Wood a phen Liam,” meddai Shaun Edwards. “Mae’n rhywbeth y byddwn yn edrych arno. Dw i’n meddwl y byddwn ni’n gwneud sylw yn ddiweddarach. Fe wnaethon ni golli un o’n chwaraewyr gorau.”

Daw’r anafiadau diweddaraf ar ôl i Gymru golli Leigh Halfpenny, Rhys Webb a Jonathan Davies cyn i’r twrnameint gychwyn, a Cory Allen wedi’r gêm yn erbyn Uruguay yr wythnos ddiwethaf.