Bydd Cyngor Llyfrau Cymru yn lansio cyfrif Twitter newydd i blant i ddathlu canmlwyddiant geni’r awdur T Llew Jones.

Bwriad @LlyfrDaFabBooks yw creu trafodaeth ymysg plant ar y We am eu hoff lyfrau a’u hoff gymeriadau.

“Bydd hwn yn caniatáu i blant Cymru a thu hwnt ddweud wrthym pa lyfrau sydd orau ganddynt, pa gymeriadau sydd yn ddiddorol a pha gyfresi maent yn eu hoffi neu’n eu casáu,” meddai Sharon Owen, Swyddog Llyfrau Plant a Hyrwyddo Darllen.

“Mae’n gyfrwng trafod a gall ysgolion weld pa lyfrau mae plant mewn ysgolion eraill yn eu darllen a pha rai sydd yn boblogaidd.”

Lansio’r safle ym mro T Llew

Bydd y Cyngor Llyfrau yn lansio’r cyfrif trydar yn Ysgol Gynradd, Trewen ger Castellnewydd Emlyn ddydd Iau, 1 Hydref.

“Mae hwn yn gyfle gwych i ni gael bod y cyntaf o ysgolion Cymru i gyfrannu at y cyfrif trydar. Mae T. Llew yn awdur lleol i ni ac mae’n braf bod y plant yn cael dysgu am ei waith a’u bod yn dal i fwynhau’r straeon,” meddai Rhianydd James, prifathrawes yr ysgol.