Fe allai miloedd o gefnogwyr Cymru wynebu trafferthion  i ddychwelyd adre o Lundain nos Sadwrn ar ôl y gêm yn erbyn Lloegr yng Nghwpan y Byd oherwydd prinder trenau.

Mae disgwyl i’r ornest fawr yn Twickenham orffen tua 9.30yh gan olygu mai dim ond hanner awr fyddai gan gefnogwyr i gyrraedd gorsaf Paddington i ddal y trên olaf nôl i Gymru.

Mae trenau ar ôl 10.00yh yn teithio i Fryste yn unig, ac mae Great Western Railway wedi rhybuddio teithwyr y dylen nhw wneud cynlluniau amgen er mwyn cyrraedd adre o fanno.

Ac mae hynny wedi cythruddo cefnogwyr fydd un ai’n gorfod ceisio canfod lle prin ar un o’r bysus hwyr o Lundain i dde Cymru, aros yn Llundain dros nos neu hyd yn oed adael y gêm yn gynnar.

‘Gwarthus’

Mae cwmnïau trên eisoes wedi cael eu beirniadu’n hallt am beidio â gwneud mwy i osgoi tagfeydd yng Nghaerdydd yn ystod gemau Iwerddon v Canada ac Awstralia v Fiji.

Ac mae’r newyddion diweddaraf am y trenau o Lundain nos Sadwrn wedi codi gwrychyn mwy o gefnogwyr Cymru.

“Mae’n hurt. Dyw e ddim fel bod y twrnament yma wedi digwydd yn sydyn – maen nhw wedi cael pum mlynedd i gynllunio,” meddai Alun Edwards, 37 oed, o Abertawe.

“Does dim rhaid i chi fod yn gefnogwr chwaraeon brwd i wybod fod Cymru v Lloegr yn gêm enfawr – yn enwedig mewn Cwpan y Byd – ac fe fydd cefnogwyr o Gymru eisiau mynd.

“Dylen nhw un ai fod wedi chwarae’r gêm yn gynt neu drefnu mwy o drenau a bysus. Mae tocynnau’n ddigon drud heb orfod talu crocbris am westy – hynny yw, os oes ystafelloedd ar ôl.”

Mynegodd eraill eu dicter ar wefannau cymdeithasol, gyda rhai’n ei ddisgrifio fel “shambls” ac eraill yn cwestiynu pam nad oedd y cwmnïau trên wedi gwneud cynlluniau o flaen llaw.

‘Sgandal’

Mae Ysgrifennydd Cymru Stephen Crabb eisoes wedi dweud y gallai system drafnidiaeth drafferthus wneud niwed i enw da Caerdydd fel dinas allai ddenu digwyddiadau rhyngwladol mawr yn y dyfodol.

Mae undeb gweithwyr yr RMT hefyd wedi beirniadu’r trefniadau, gyda’u hysgrifennydd cyffredinol Mick Cash yn dweud ei bod  yn “sgandal” fod cwmnïau trên yn “gwneud ffortiwn o brisiau tocynnau ychwanegol tra’u bod nhw’n darparu gwasanaeth hollol annigonol”.

Mewn ymateb mynnodd y Rail Delivery Group, sydd yn cynrychioli Network Rail a chwmnïau trenau, bod staff a threnau ychwanegol eisoes wedi cael eu trefnu ar gyfer Cwpan y Byd.

“Mae staff ychwanegol yn gweithio yn y gorsafoedd i helpu pobl i gwblhau eu siwrne ac rydyn ni’n gweithio’n agos â thîm trafnidiaeth Cwpan Rygbi’r Byd er mwyn rhoi gwybodaeth i deithwyr ynglŷn â’r adegau gorau i deithio.”