Mae Heddlu’r De yn ymchwilio i ymosodiad rhywiol ar ddynes yng Nghaerdydd ddydd Mawrth.
Cafodd yr heddlu eu galw toc wedi 11.30 fore ddoe yn dilyn adroddiadau o ymosodiad ar ddynes.
Mae plismyn ychwanegol wedi cael eu hanfon i ardal Teras Cathays yn dilyn y digwyddiad.
Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu’r De eu bod nhw’n ymchwilio i ail ymosodiad yng Nghanolfan Sifil Caerdydd fore Sul, Medi 20, a’u bod yn cadw meddwl agored ynglyn a chysylltiad posib rhwng y ddau ddigwyddiad.
Mae’r heddlu wedi apelio ar drigolion i fod yn wyliadwrus, ac i gerdded mewn parau a grwpiau yn y nos, i yfed mewn modd cyfrifol a chadw at ardaloedd sydd wedi’u goleuo.
Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101 neu Taclo’r Tacle ar 0800 555 111.