Fe fydd Cymru’n dechrau eu hymgyrch yng Nghwpan Rygbi’r Byd wrth iddyn nhw groesawu Wrwgwai i Gaerdydd ddydd Sul.

Mae Wrwgwai’n rhif 19 yn y byd, ac mae disgwyl i Gymru gipio buddugoliaeth gyffyrddus yn Stadiwm y Mileniwm.

Dydy Wrwgwai ddim wedi cyrraedd Cwpan Rygbi’r Byd ers 2003, a dydy’r un o’u chwaraewyr ddim wedi chwarae yn y gystadleuaeth o’r blaen.

Pedwar yn unig o’u chwaraewyr sy’n chwarae y tu allan i’r wlad, ac mae’r rhan fwyaf ohonyn nhw’n amatur.

O gyfuno cystadlaethau 1999 a 2007, mae Cymru wedi ennill tair o gemau a cholli tair yng Nghwpan y Byd yng Nghaerdydd.

Mae Wrwgwai wedi colli pob un o’u gemau erioed yn erbyn gwrthwynebwyr sydd yn rhengoedd uchaf y rhestr detholion.

81 o bwyntiau yw record Cymru yn ystod un o gemau Cwpan y Byd, ac fe fyddai cyrraedd hynny o bwyntiau’n golygu eu bod nhw wedi sgorio 1,000 o bwyntiau yn hanes y gystadleuaeth.

Fe fydd yr ornest hon yn gyfle i rai o chwaraewyr ymylol Cymru wrth i’r hyfforddwr Warren Gatland sicrhau bod y prif chwaraewyr yn aros yn holliach.

Cymru: Liam Williams, Alex Cuthbert, Cory Allen, Scott Williams, Hallam Amos, Rhys Priestland, Gareth Davies; Paul James, Scott Baldwin, Samson Lee, Jake Ball, Luke Charteris, Sam Warburton (capten), Justin Tipuric, James King.

Eilyddion: Ken Owens, Aaron Jarvis, Tomas Francis, Dominic Day, Dan Lydiate, Ross Moriarty, Lloyd Williams, Matthew Morgan.

Wrwgwai: Gaston Mieres, Santiago Gibernau, Joaquin Prada, Andres Vilaseca, Rodrigo Silva, Felipe Berchesi, Agustin Ormaechea, Alejo Corral, Carlos Arboleya, Mario Sagario, Santiago Vilaseca (capten), Jorge Zerbino, Juan Manuel Gaminara, Alejandro Nieto, Matias Beer.

Eilyddion: German Kessler, Oscar Duran, Mateo Sanguinetti, Franco Lamanna, Agustin Alonso, Juan De Freitas, Alejo Duran, Francisco Bulanti.