Roedd Neuadd Bronteifi yn orlawn neithiwr gyda phobl wedi teithio o bell ac agos i glywed Emyr Llew yn trafod gwaith ei dad, yr awdur diweddar T Llew Jones, yn narlith goffa Islwyn Ffowc Elis.

A dyna ddechrau Gŵyl Golwg, sydd nôl yn Llanbedr Pont Steffan am ei thrydedd flwyddyn o’r bron. Noson gomedi sydd heno yng Nghlwb Rygbi Llanbed gyda’r digrifwr lleol, Gary Slaymaker.

“Mae Gary wedi bod yn rhan o’r ŵyl dros y ddwy flynedd ddiwethaf ac mae nôl eto ‘lenni gyda’i stand yp newydd, Siwgwr Lwmp,” medd Owain Schiavone, trefnydd yr ŵyl.

Er bydd digon o chwerthin i’w gael heno, mae pwnc y sioe stand yp yn un mwy difrifol. Cafodd Gary Slaymaker wybod bod ganddo ddiabetes ychydig o flynyddoedd yn ôl ac mae am siarad am ei brofiadau yn ei ffordd arferol o dynnu coes er mwyn codi ymwybyddiaeth pobl o’r clefyd.

Pris mynediad yw £3 a bydd yr holl elw yn mynd i elusen Diabetes Cymru.

Hwyl i’r plant yfory

Yn ogystal ag elfen ddiwylliannol a chomedi’r ŵyl, mae elfen deuluol iddi hefyd. Bydd plant o bob cwr o Lanbed a thu hwnt yn cael mwynhau diwrnod llawn sbri yn Niwrnod Hwyl gydag Wcw a’i Ffrindiau.

“Gŵyl i bawb yw hon,” medd Owain Schiavone.

“Er bod stwff llenyddol a diwylliannol yn rhan ohoni, dyw hi ddim yn ŵyl uchel-ael o gwbl.”

Bydd y diwrnod hwyl yn cael ei gynnal yn Ysgol Bro Pedr yng nghwmni Wcw, prif gymeriad cylchgrawn plant cwmni Golwg, a rhai o gymeriadau hoffus eraill fel Sali Mali ac Alun yr Arth.

Bydd dau lansiad pwysig yno hefyd, wrth i Sali Mali ac Alun yr Arth lansio eu llyfrau newydd.

Bydd yr enwog Sali Mali yn yr ŵyl yn lansio Llyfr Mawr Sali Mali, sy’n gyfrol newydd gan Wasg Gomer yn llawn o weithgareddau amrywiol i blant bach gan gynnwys posau a lluniau i’w lliwio am Sali a’i ffrindiau.

Bydd Alun yr Arth yn torri tir newydd hefyd wrth i awdur a chartwnydd y gyfres boblogaidd, Morgan Tomos lansio fersiynau digidol o’i straeon. Bydd hefyd yn cynnal gweithdai gyda’r plant a bydd cyfle hefyd i lunio stori newydd yng nghyfres Anturiaethau Alun yr Arth.

Gŵyl i Lanbed

Mae’r ŵyl yn cael ei chynnal eleni mewn sawl lleoliad ar draws tref Llanbed, a dyna yw rhan o esblygiad yr ŵyl yn ôl Owain Schiavone.

“Roedd prif elfen yr ŵyl yn cael ei chanoli ar gampws y brifysgol yma, ond roeddwn i’n awyddus i fynd â’r ŵyl allan yn fwy i’r gymuned eleni.

“Mae’n bwysig bod trefi gwledig fel Llanbed yn cael digwyddiadau fel hyn sy’n cyfuno llenyddiaeth, cerddoriaeth, pethau digidol a phethau i’r plant,”

“Gŵyl i bobl Llanbed yw hon.”