Mae Plaid Cymru a’r Ceidwadwyr wedi mynegi pryder am gynlluniau newydd dadleuol cwmni Trinity Mirror gan ddweud eu bod yn ergyd i safon newyddiaduraeth yng Nghymru.

Mae gan y cwmni gynlluniau i gynyddu’r gynulleidfa drwy roi pwyslais ar nifer y defnyddwyr sy’n clicio ar straeon ar y we.  Mae Trinity Mirror yn berchen ar nifer o bapurau dyddiol ac wythnosol yng Nghymru yn cynnwys y Daily Post a’r Western Mail.

Mae Andrew RT Davies, arweinydd  y Ceidwadwyr yng Nghymru, wedi condemnio’r cynlluniau i gyflwyno newyddiaduraeth drwy abwyd clic gan ddweud y bydd yn “drychinebus i newyddiaduraeth Gymreig yn enwedig i’r sylw sy’n cael ei roi i sefydliadau gwleidyddol Cymreig.”

Dywedodd: “Mae rhoi pwyslais ar boblogrwydd stori dros ddiddordeb cyhoeddus yn creu tuedd a fydd yn ei gwneud hi’n anodd i droi’n ôl.”

Swyddi

Mae Aelod Cynulliad Plaid Cymru, Simon Thomas hefyd wedi mynegi pryder ynglŷn â’r cynlluniau a’r oblygiadau i osod targedau clic unigol ar newyddiadurwyr,

Dywedodd: “Nod y diktat hwn sy’n deillio o bencadlys Trinity Mirror yn Canary Wharf yw hybu nifer y cliciau ar wefan Wales Online, ond unwaith eto mae’r cwmni’n torri swyddi yng nghanolfan bapur newydd fwyaf Cymru.”

Ychwanegodd:  “Rwy’n bryderus iawn ynghylch cynigion y cwmni i gyflwyno targedau unigol i newyddiadurwyr sy’n gysylltiedig â ‘chliciau’ ar y wefan o fis Ionawr 2016 ymlaen.”

Rhybuddiodd Simon Thomas y gallai’r newidiadau arwain at sefyllfa lle mae newyddiaduraeth, sydd angen  cryn dipyn o waith ymchwil – yn cael ei wthio i’r ymylon wrth i newyddiadurwyr gael eu gorfodi i gynhyrchu straeon “diddim” mor fuan ag sydd modd, mewn ras i gael cliciau ar y wefan.

‘Newyddiaduraeth o safon’

Mae Simon Thomas yn ofni fod y cynlluniau hyn am effeithio ar safonau newyddiaduraeth, fel yr eglurodd: “Mae gen i ofnau difrifol y bydd y pwyslais newydd arfaethedig hwn yn arwain at ostyngiad yn ansawdd newyddiaduraeth leol.

“Mae dal cyrff cyhoeddus fel Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac awdurdodau lleol i gyfrif yn hanfodol er mwyn democratiaeth leol, felly ni ddylai dim ddigwydd i leihau swyddogaeth bwysig newyddiadurwyr.

Ychwanegodd, “Rwyf eisiau sicrwydd gan Trinity Mirror na fydd unrhyw ymgais i danseilio newyddiaduraeth o safon yn Media Wales. Rhaid i newyddiadurwyr gael digon o amser i fynd ar drywydd straeon o bwys a’u hysgrifennu, heb ofni y bydd yn anfantais iddynt oherwydd meddylfryd y ‘clic’.”

‘Pryderus iawn’

Mae Undeb y Newyddiadurwyr (NUJ), hefyd yn pryderu am y newidiadau hyn. Dywedodd llefarydd: “Yr ydym yn bryderus iawn am oblygiadau rhoi targedau clic i newyddiadurwyr.

“Ar ei waethaf, fe all hyn annog newyddiadurwyr i geisio creu straeon newyddion yn seiliedig ar bwnc dibwys i fod yn boblogaidd, gan roi’r gorau i newyddiaduraeth heriol sy’n cymryd amser i’w gwneud a’u hymchwilio.”

‘Trawsnewid angenrheidiol’

Ond dywedodd Neil Benson ar ran Trinity Mirror fod y newidiadau yn ymgeisio i addasu i anghenion y gynulleidfa:  “Rydym ar flaen y gad mewn cyfnod o drawsnewid angenrheidiol er mwyn addasu i ymddygiad defnyddwyr sy’n newid, yn y diwydiant cyfryngau.

“Yr uchelgais yw cynyddu ein cynulleidfa leol trwy ganolbwyntio ein sylw ar ddarparu cynnwys sy’n berthnasol i’r gynulleidfa. Fe fydd hyn yn cael ei gyflawni, trwy ganolbwyntio ar gynnwys craidd lleol, wedi’i yrru gan ddadansoddi tueddiadau’r gynulleidfa.”

Ychwanegodd: “Bydd y newidiadau hyn yn cael eu cyflwyno ar ddiwedd mis Medi ledled busnesau rhanbarthol yng ngogledd Cymru, Cymru, Swydd Gaer, Glannau Mersi, Manceinion a Gogledd Orllewin Lloegr.”