Bydd cynnyrch newydd dau o arwyr plant Cymru’n cael eu lansio yng Ngŵyl Golwg yn Llanbedr Pont Steffan ddydd Sadwrn, 12 Medi.

Bydd llyfr mawr newydd Sali Mali yn cael ei ddangos am y tro cynta’ a bydd Alun yr Arth yn torri tir newydd gyda chasgliad o lyfrau digidol.

Mae’r lansiadau hyn yn rhan o ddiwrnod ‘Hwyl gydag Wcw a’i Ffrindiau’, sy’n cael ei gynnal yn Neuadd Ysgol Bro Pedr,  fel rhan o’r 3edd Ŵyl Golwg yn y dref.

Cafodd yr ŵyl ei chreu yn 2013 i ddathlu 25 mlwyddiant Cylchgrawn Golwg.

Mae’r diwrnod hwn yn rhan o benwythnos ehangach, gyda digwyddiadau ar y nos Iau, 10 Medi, nos Wener,  11 Medi, gan gloi’r cwbl ar y dydd Sadwrn.

 

Llyfr newydd i Sali Mali

Bydd  Sali Mali yn lansio Llyfr Mawr Sali Mali yn yr ŵyl.

Mae’r gyfrol newydd gan Wasg Gomer yn llawn o weithgareddau amrywiol i blant bach gan gynnwys posau a lluniau i’w lliwio am Sali a’i ffrindiau.

Emma Pelling yw’r arlunydd sy’n gyfrifol am waith celf y gyfrol a Rhian Mair Evans yw’r golygydd.

Cyfrwng newydd i Alun yr Arth

Mae un o  gymeriadau cyfoes mwyaf hoffus Cymru hefyd yn lansio llyfrau digidol yng Ngŵyl Golwg.

Maen nhw ar gael i’w lawrlwytho i amryw ddyfeisiadau a bydd yr awdur ac arlunydd Morgan Tomos yn yr ŵyl i gyflwyno’r straeon ar eu newydd wedd.

Bydd hefyd yn cynnal sesiynau gyda’r plant i greu straeon newydd ar gyfer Alun yr Arth.

Yn ogystal â gweithgareddau Sali Mali ac Alun yr Arth, bydd cymeriadau cyfres y rhaglen deledu Wenfro yn yr ŵyl, ac wrth gwrs Wcw ei hun a rhai o gymeriadau eraill cylchgrawn Wcw a’i Ffrindiau.

 

Mae diwrnod Hwyl Gydag Wcw a’i Ffrindiau yn digwydd yn Neuadd Ysgol Bro Pedr, Llanbedr Pont Steffan, fore Sadwrn 12 Medi.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am yr ŵyl yn www.gwylgolwg.com