Mae Cronfa Lawnsio wedi cyhoeddi rownd newydd o gyllido a fydd yn cynorthwyo artistiaid a bandiau i ddatblygu eu gyrfaoedd cerddorol.

Mae’r Gronfa Lawnsio yn rhan o’r cynllun Gorwelion gan BBC Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru.

Ei fwriad yw datblygu cerddoriaeth newydd, ac mae wedi’i anelu at bobol sy’n ysgrifennu, cynhyrchu a pherfformio cerddoriaeth gyfoes ac sy’n byw yng Nghymru.

Mae gan y gronfa hyd at 25 o grantiau i’w cynnig, gyda’u gwerth yn ymestyn hyd at £2,000 yr un.

Rhaid i’r cerddorion fod yn byw yng Nghymru ac wedi chwarae eu traciau ar BBC Radio Cymru neu BBC Radio Wales o’r blaen.

Band: ‘Samoans’

Bydd y grantiau’n sicrhau cefnogaeth i artistiaid a bandiau newydd i gyrraedd eu potensial.

Un band wnaeth elwa o’r grantiau’r llynedd oedd Samoans, o Gaerdydd. Fe wnaethon nhw benderfynu gwario’r arian ar biano llwyfan.

“Mae wedi bod o fudd i ni”, meddai aelod o Samoans ac mae’r piano “wedi mynd â’n hysgrifennu i gyfeiriadau newydd”.

Ar hyn o bryd mae’r band yn gweithio ar ail albwm fydd yn olynu eu halbwm cyntaf Rescue a ryddhawyd yn 2014.

“Byddwn ni’n defnyddio’r piano llwyfan i recordio ein hail albwm, ac i berfformio’n fyw yn nes ymlaen”, meddai.

Artist: ‘Ellie Makes Music’

Fe wnaeth y cerddor Ellie Makes Music o dde Cymru hefyd fanteisio ar arian y Gronfa Lawnsio y llynedd.

Cyhoeddodd ei EP newydd ym mis Gorffennaf eleni, a dywedodd na fyddai hynny wedi bod yn bosib oni bai am Gronfa Lawnsio Gorwelion.

“Mae bod yn gerddor yn gostus”, meddai, “ac rwy’n ddiolchgar iawn i’r gronfa”.

“Mae’r arian yn golygu fy mod i wedi gallu gweithio gyda’r bobl gywir, a chymryd risgiau na fyddwn wedi gallu gwneud heb y gyllideb”.

Mae Core a Mountains, rhai o draciau Ellie Makes Music, wedi cael eu chwarae ar BBC Radio 2 a BBC Radio 6 eisoes, a bu hefyd yn artist yr wythnos ar BBC Radio Wales.

Mae’r Gronfa Lawnsio yn galw felly ar artistiaid a bandiau newydd o Gymru i gyflwyno eu ceisiadau grant cyn hanner nos, nos Lun 28 Medi  2015.