Calan
Mae dau aelod o’r grŵp gwerin Calan wedi cael eu hanfon nôl adre’ o America ar ôl i’r awdurdodau wrthod iddyn nhw gael mynediad i’r wlad – ond mae golwg360 ar ddeall erbyn hyn eu bod nhw’n cael dychwelyd i’r wlad.

Fe gafodd y ffidlwr Patrick Rimes a’r gitarydd Sam Humphreys eu hanfon yn ôl i Gymru, tra bod y ddau aelod arall, y ffidlwraig Angharad Jenkins a’r canwr Bethan Rhiannon wedi aros yn America i barhau â’u taith yno’n perfformio mewn amryw leoliadau.

Er bod y ddwy wedi aros, mae’r grŵp wedi gorfod canslo rhai perfformiadau yn America yn sgîl y digwyddiad hwn.

Mewn datganiad ar eu tudalen Facebook, roedd y grŵp yn dweud bod eu rheolwr, swyddog o Recordiau Sain a’u hasiant yn gwneud popeth posib i gael y ddau arall yn ôl i’r wlad.

Nid oedd rheolwr Calan yn fodlon dweud wrth golwg360 pam na chafodd y ddau fynediad i America.

Mae Calan yn diolch i bawb am eu cefnogaeth: “Rydym yn gwerthfawrogi’r geiriau caredig rydym wedi’u cael hyd yn hyn.”

Ym mis Chwefror, gwrthodwyd mynediad i Kizzy Crawford, canwr gwerin o Ferthyr Tudful rhag mynd i mewn i America.