Mae Plaid Cymru wedi canfod fod bron i 1,700 o blant mewn gofal yng Nghymru yn gorfod symud y tu allan i’w hardaloedd – gyda rhai wedi’u gyrru mor bell a swydd Suffolk a De Swydd Efrog.

Daeth y wybodaeth i’r fei yn dilyn cais rhyddid gwybodaeth gan Blaid Cymru sydd hefyd yn datgelu fod y gost o leoli plant y tu allan i’w siroedd yn gannoedd o filoedd.

Mae Cyngor Abertawe wedi gwario £45m dros dair blynedd; y gwariant yn £24m yng Nghaerdydd; a £10m yn flynyddol yn Rhondda Cynon Taf. Mae cyfanswm y bil allsirol tua £200m dros dair blynedd.

Mynegodd Lindsay Whittle, llefarydd Plaid Cymru ar wasanaethau cymdeithasol bryder fod plant mewn gofal yn cael eu gyrru mor bell o’u cymunedau.

“Bydd pobl yn synnu bod cymaint o blant yn cael eu lletya draw oddi wrth eu cymunedau – mor bell â Brighton, Suffolk a De Swydd Efrog. Mae’n debyg bod hyn yn adlewyrchu’r farn nad oes gennym y gallu yng Nghymru i’w lletya,” meddai.

“Os yw gallu awdurdodau lleol yn gyfyngedig, beth wnaiff Llywodraeth Cymru i ymdrin â’r mater hwn? Mewn llawer o achosion, all hi ddim bod yn llesol i blant gael eu cartrefu ymhell oddi wrth eu teulu a’u cyfeillion.

“A beth os caiff plentyn ei symud allan o gymuned Gymraeg ei hiaith i ardal Seisnigedig o Gymru neu i Loegr? Gall hynny greu problemau ychwanegol.”

Ychwanegodd fod angen edrych ar wella’r gefnogaeth o’u cwmpas hytrach nag ail-sefydlu plant sy’n fregus, “Onid y cyfle gorau i adsefydlu plant bregus, sydd efallai yn cael trafferthion gyda chamddefnyddio sylweddau neu ymddygiad troseddol, yw cael fframwaith cefnogol o’u cwmpas? Lles plant ddylai fod flaenaf.”