Mae canolfan syrffio newydd yn y gogledd yn gwerthu gwersi syrffio ar ei gwefan mewn 35 o ieithoedd.

Ond nid oes modd archebu’r gwersi yn y Gymraeg ar wefan Surf Snowdonia yn Nolgarrog.

Yn ôl Cymdeithas yr Iaith mae nifer o drigolion lleol wedi cysylltu â nhw yn gofidio am “ddiffyg darpariaeth Gymraeg” y cwmni  sydd wedi derbyn £4 miliwn gan Lywodraeth Cymru.

Ac mae cwyno wedi bod am enw uniaith Saesneg yr atyniad twristiaeth gydag awgrym y gellid ei alw yn ‘Ewyn Eryri’ yn Gymraeg.

Mae pryder hefyd gan Fenter Iaith leol ynghylch y nifer o hyfforddwyr y ganolfan sy’n rhugl yn y Gymraeg.

Dywedodd y cwmni wrth golwg360 mai dim ond “un neu ddau o’r staff hyfforddi sy’n siarad Cymraeg” o blith 15 o staff hyfforddiant.

Dywedodd llefarydd Llywodraeth Cymru “Rydym mewn trafodaethau gyda Surf Snowdonia, yn dilyn eu lansiad llwyddiannus, i sicrhau eu bod nhw yn cwrdd ag amodau eu grant sy’n ymwneud â’r iaith Gymraeg.”

Mae golwg360 wedi gofyn am fanylion amodau’r grant.

‘Dim digon o staff sy’n medru’r Gymraeg’

Dywedodd Meirion Davies, Cyfarwyddwr Datblygu Menter Iaith Conwy: “Mi wnaethon ni bwyso ar y Ganolfan o’r dechrau i sefydlu cynllun iaith.

“Rydym yn awyddus i gydweithio i greu gweithlu lleol.

“Ond maen nhw yn gyndyn o wneud y Gymraeg yn fantesiol mewn swyddi. Er bod yr arwyddion i gyd yn ddwyieithog a fod yna gynllun iaith iawn ar bapur, nid oes yna ddigon o staff Cymraeg eu hiaith. Y cwestiwn ydy, efo cyn lleied o staff hyfforddi yn rhugl yn y Gymraeg, sut maen nhw yn mynd i ddarparu [hyfforddiant cyfrwng Cymraeg] ar gyfer ysgolion?”

‘Annerbyniol’ medd y Gymdeithas

Dywedodd Manon Elin ar ran Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: “Nid yw’r sefyllfa yn dderbyniol. Mae ein cell leol wedi ysgrifennu at y cwmni gan fynegi ein pryderon am ddiffyg darpariaeth Gymraeg y fenter busnes ’ma. Mae nifer o bobl wedi cwyno am y diffyg staff Cymraeg ar y safle, a’r diffygion o ran statws y Gymraeg ar y safle a phroblemau ehangach.”

“Mae yna fai ar Lywodraeth Cymru, sydd wedi rhoi llawer iawn o arian i’r fenter, am hyn. Cawson nhw adroddiad ymhell dros flwyddyn yn ôl, wedi ei lunio gan arbenigwyr busnes, oedd yn galw am amod iaith ar bob grant i fusnes. Maen nhw wedi anwybyddu’r argymhelliad hwnnw, a dyma’r canlyniad. Mi fyddwn ni’n codi’r mater hwn gyda swyddogion y Llywodraeth.”

Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb gan gwmni Surf Snowdonia.