Map yn dangos ardal y ddamwain (Nilfanion CCA3.0 - cynnwys deunydd Arolwg Ordnans, Hawlfraint y Goron
Mae un o briffyrdd pwysica’ de-orllewin Cymru ynghau i’r ddau gyfeiriad ar ôl dawmain.

Yn ôl Heddlu Dyfed-Powys, fe fydd priffordd yr A48 rhwng Nantycaws ger Caerfyrddin a Cross Hands ger Llanelli yn para ynghau tan ganol dydd heddiw.

Roedd y ffordd ddeuol wedi’i chau am 6.30 y bore yma er mwyn clirio’r ddamwain ac mae traffig yn cael ei yrru hyd ffyrdd lleol eraill.

Y disgwyl yw y bydd heddiw’n ddiwrnod prysur ar y ffyrdd wrth i ymwelwyr gyrraedd a gadael ar gyfer gwyliau – mae tagfeydd cyson yn yr ardal ar ddyddiau Gwener yn yr haf.