Benjamin Zephaniah (ar y chwith) yn crwydro'r Maes ym Meifod
Mae Benjamin Zephaniah wedi dweud y dylai’r Gymraeg gael ei dysgu mewn ysgolion yn Lloegr er mwyn dysgu pobl am “ddiwylliannau ac ieithoedd eraill” o fewn Prydain.

Roedd y bardd adnabyddus, sydd yn dod o Birmingham ond â thras Jamaicaidd, wedi bod yn treulio’r wythnos yn Eisteddfod Meifod yn cael blas ar ddiwylliant y Cymry.

Awgrymodd Benjamin Zephaniah hefyd y gallai Lloegr elwa’n fawr o gynnal Eisteddfod ei hun, gan ddweud fod pobl ifanc Cymraeg i’w gweld yn llawer mwy parod i ganu a pherfformio na’u cyfoedion o Loegr.

‘Ddim yn ŵyl elitaidd’

Fe dreuliodd Benjamin Zephaniah wythnos yn y brifwyl ym Meifod fel rhan o raglen deledu arbennig am yr Eisteddfod fydd yn cael ei dangos ar BBC Two Wales a BBC Four dros y penwythnos.

Dywedodd y bardd nad oedd yn teimlo fod yr Eisteddfod hanner mor “elitaidd” a gwyliau llenyddol a diwylliannol, a’i bod hi’n “rhyfeddol i mi fod bron pawb dwi’n gyfarfod yn gallu canu”.

Ychwanegodd ei fod yn teimlo bod y Cymry yn gwerthfawrogi eu hiaith yn fwy na’r Saeson am ei fod dan fygythiad, gan ddweud y dylai pobl yng ngweddill Prydain fod yn fwy ymwybodol am y Gymraeg.

“Dyna’r rheswm dwi’n dweud y dylai’r iaith Gymraeg gael ei dysgu mewn ysgolion yn Lloegr,” meddai Benjamin Zephaniah wrth Cymru Fyw.

“Mae Hindi, Tsieinëeg a Ffrangeg yn cael eu dysgu, felly pam ddim Cymraeg? A pham ddim Cernyweg? Maen nhw’n rhan o’n diwylliant.”