Protest Cymdeithas yr Iaith
Mae ymgyrchwyr iaith wedi dinistrio car o flaen stondin Llywodraeth Cymru ar faes yr Eisteddfod ym Meifod mewn protest yn erbyn dysgu’r pwnc Cymraeg Ail Iaith.

Yn ôl Cymdeithas yr Iaith, mae’r pwnc Cymraeg Ail Iaith yn yr ysgol yn “write off” – fel y car ar y maes heddiw – ac fe ddylid cael gwared arni.

Yn hytrach, mae’r ymgyrchwyr yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno Cymraeg i bawb ar hyd continwwm iaith yn y cwricwlwm newydd.

Fideo o’r brotest:

Trefnu cyfarfod

Dywedodd Cymdeithas yr Iaith eu bod eisoes wedi trefnu cyfarfod â’r Gweinidog Addysg, Huw Lewis, i drafod eu pryderon yn yr hydref.

Mae’r mudiad am i Lywodraeth Cymru gyflwyno rhywfaint o addysg cyfrwng Cymraeg i bob plentyn yng Nghymru fel y daw pob disgybl i fedru cyfathrebu’n Gymraeg a defnyddio’r iaith.

“Go brin fod unrhyw sefyllfa erioed wedi bod yn gliriach,” meddai Ffred Ffransis, llefarydd addysg Cymdeithas yr Iaith, ar ôl y brotest.

“Mae holl syniad Cymraeg Ail Iaith yn fethiant – yn fethiant addysgol ac yn bradychu’r disgyblion. Petai Cymraeg ail iaith yn gerbyd, byddai’n “write-off”!”

Yn ôl cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Jamie Bevan mae’r sefyllfa bresennol yn “sarhaus” i’r Gymraeg, a dywedodd bod “pob un plentyn yn haeddu addysg cyfrwng Cymraeg cyflawn”.