Llys y Goron Caerdydd
Mae dau ddyn wedi ymddangos yn y llys heddiw ar gyhuddiad o geisio llofruddio dyn 43 oed ger Aberpennar ar ddydd Sul, 26 Gorffennaf.

Ymddangosodd Stephen Bennett, 51 o Bontypridd, ac Edward Bennett, 46 o Aberpennar, yn Llys y Goron Caerdydd heddiw ar gyhuddiad o geisio llofruddio ac o fod â gwn yn eu meddiant gyda’r bwriad o gyflawni trosedd.

Dyma’r eilwaith i’r dynion ymddangos yn y llys fel rhan o’r achos. Roedd y ddau wedi ymddangos ger llys ynadon ddydd Sadwrn ar ol cael eu cyhuddo yn hwyr nos Wener.

Clywodd y llys fod cyflwr Mark Jones, 43 oed, a gafodd ei saethu ar ochr y ffordd rhwng Aberpennar ac Abercynon wedi gwaethygu. Mae e dal mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty.

Bydd eu gwrandawiad yn cael ei gynnal ar 30 Hydref pan mae disgwyl iddyn nhw gyflwyno ple. Cafodd Stephen Bennett ac Edward Bennett eu cadw yn y ddalfa.

Mae dyn arall 46 oed yn parhau ar fechniaeth yr heddlu.