Bydd staff Amgueddfeydd Cymru yn mynd ar streic dros y penwythnos dros gynigion i dorri eu cyflog.

Mae hyn yn golygu y bydd yr Amgueddfa Lechi yn Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe ar gau.

Disgwylir y bydd Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan a’r Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd ar agor, ond bydd nifer o’r atyniadau wedi cau.

Yn ôl undeb y PCS bydd 250 o’u haelodau sy’n gweithio yn amgueddfeydd Cymru yn streicio fory, gyda’r rhai sy’n gweithio yn Amgueddfa Lofaol Big Pit ym Mlaenafon yn streicio ddydd Sul.

Mae aelodau’r PCS yn gwrthwynebu cynllun i ddileu taliadau ar gyfer gweithio ar benwythnosau.

Dywedodd yr undeb bod aelodau yn gwrthwynebu gweld eu cyflogau yn lleihau 15% sef golygu gostyngiad cyflog o rhwng £2,000 a £3,000 i rai o’r gweithwyr.

Dywedodd llefarydd dros yr Undeb eu bod “yn deall” bod angen gwneud toriadau a’u bod wedi gwneud argymhellion i reolwyr yr amgueddfeydd sydd heb gael eu trafod.

Roedd llefarydd yr Amgueddfeydd yn argymell y dylai ymwelwyr edrych ar eu gwefan am wybodaeth os ydyn nhw’n bwriadu ymweld â’u safleoedd dros y penwythnos.