Mae Dyfodol i’r Iaith wedi ethol y ddarlledwraig Elinor Jones yn llywydd y mudiad.

Yn unol â’u rheoliadau cyfansoddiadol, roedd aelodau Dyfodol i’r Iaith wedi cytuno’n unfrydol i’w hethol fel llywydd y mudiad.

Mae Elinor Jones yn wyneb a llais cyfarwydd yng Nghymru, ac wedi cyflwyno nifer helaeth o raglenni teledu a radio drwy gyfwng y Gymraeg a’r Saesneg.

Mewn datganiad dywedodd Dyfodol i’r Iaith ei fod “yn hynod falch iddi dderbyn y rôl, ac yn croesawu ac yn edrych ymlaen at fanteisio o’i phrofiad a’i hymrwymiad.”

‘Hyrwyddo’r iaith’

Dywedodd Elinor Jones:  “Mae’n bleser mawr gennyf dderbyn y gwahoddiad hwn i ddod yn Llywydd Dyfodol i’r Iaith, ac edrychaf ymlaen at chwarae fy rhan i hyrwyddo’r iaith Gymraeg, ac ymuno a’r trafodaethau cyffrous a amlinellir yn Creu Dyfodol i’r Gymraeg, sef rhaglen waith newydd Dyfodol.”

Bydd derbyniad yn cael ei gynnal i Elinor Jones fel Llywydd Dyfodol i’r Iaith ar stondin y mudiad yn ystod  Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a’r Gororau am 2yp ar ddydd Iau, 6 Awst.