Veronica German
Mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru wedi dewis ymgeiswyr y blaid ar gyfer rhanbarth dwyrain de Cymru yn etholiadau’r Cynulliad y flwyddyn nesaf.

Mae’r bleidlais o aelodau’r blaid yn y rhanbarth wedi dewis Veronica German fel  y prif ymgeisydd ar gyfer y rhestr ranbarthol yn 2016.

Mae Paul Halliday wedi ei ethol fel yr ail ddewis ac mae Bob Griffin yn drydydd dewis.

Mae Veronica German yn gyn-Aelod Cynulliad dros y rhanbarth ac mae wedi gwasanaethu fel llefarydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig ar iechyd, llywodraeth leol a chydraddoldeb. Mae’n gyn-gynghorydd sir yng Nghasnewydd a Thorfaen, a bu’n gweithio fel athro gwyddoniaeth am dros 20 mlynedd.

Mae Paul Halliday yn ymgyrchydd cymunedol yng Nghasnewydd ac mae wedi sefyll dros y blaid yn etholaeth Dwyrain Casnewydd yn yr etholiad cyffredinol eleni. Mae wedi arwain ymgyrchoedd yn lleol, gan gynnwys un yn erbyn cau campws Caerllion Prifysgol De Cymru.

Mae Bob Griffin yn gyn-gynghorydd ac aelod o gabinet ym Merthyr Tudful sy’n gwirfoddoli gyda nifer o fentrau cymdeithasol lleol.

‘Record gref’

Dywedodd Veronica German: “Efallai mai ni yw’r grŵp lleiaf yn y Cynulliad ond mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru gyda record gref o ddarparu ar gyfer pobl de ddwyrain Cymru.

“Ni fyddai bron i £76m ychwanegol ar gyfer ysgolion y rhanbarth na disgownt teithio ar gyfer bron i 25,000 o bobl ifanc y rhanbarth wedi digwydd heb Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru.

“Byddwn yn ymladd yn galed i ddod â chynrychiolaeth gan y Democratiaid Rhyddfrydol yn ôl i dde ddwyrain Cymru oherwydd dyma mae’r bobl yma ei angen – Aelod Cynulliad sy’n gweithio’n galed i frwydro drostynt.

“Rwy’n hyderus y gallwn ni ennill dwyrain de Cymru yn ôl i’r Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru.”