Arwel Lloyd a'r criw yn dechrau ar eu taith o Dyddewi
Mae’r rhan fwyaf o gerddorion sy’n rhyddhau albwm newydd yn bodloni ar chwarae ychydig o gigiau hyrwyddo ar draws Cymru – ond fe fydd Gildas yn gosod her ychwanegol i’w hun wrth iddo wneud hynny’r wythnos hon.

Bydd Arwel Lloyd, i roi ei enw iawn, yn chwarae pedair gig dros y pum diwrnod nesaf wrth ganu rhai o’r caneuon oddi ar ei gasgliad diweddaraf ‘Paid a Deud’, gan ddechrau yng Nghaerfyrddin heno.

Ond fe fydd y canwr o Lansannan hefyd yn mynd i’r afael â her gorfforol yn y cyfamser wrth godi arian at elusen, gan redeg, seiclo, nofio a chanŵio’i ffordd rhwng y lleoliadau.

Mae’n rhan o ymgyrch elusennol ar gyfer Cancer Research UK er cof am Dewi Horan, dyn ifanc 24 oed fu farw yn sydyn yn 2012 o ganser y stumog, a oedd yn frawd i Gethin, un o ffrindiau Arwel Lloyd.

Triathlon bach

Fel rhan o’r daith fe fydd Gildas yn chwarae pedair gig gyda mynediad am ddim – y Parrot yng Nghaerfyrddin heno (nos Fercher, 22 Gorffennaf), Llew Du Talybont ger Aberystwyth (23/7), The Hours Cafe yn Aberhonddu (24/7) a Tŷ Tawe yn Abertawe (26/7).

Fe fydd Jaffro yn chwarae yn y gig yng Nghaerfyrddin, gyda Llew Davies yn chwarae gyda Gildas yn Nhalybont, Harriett Earis yn chwarae yn Aberhonddu, a Cadi Rhind yn rhan o’r arlwy yn y gig olaf yn Abertawe.

Ond rhwng y gigiau fe fydd yn mynd i’r afael a’i her triathlon, gan gynnwys seiclo heddiw o Dyddewi i Gaerfyrddin yn ogystal â fory i Aberystwyth, rhedeg a cherdded rhwng Aberystwyth ac Aberhonddu, a chanŵio 10 milltir dydd Sadwrn rhwng Aberhonddu a’r Fenni.

Bydd y daith godi arian yn gorffen yn nhŷ Dewi Horan yn Llwchwr – felly taith o Dyddewi i Dŷ Dewi – gan ymweld â sawl lleoliad ar y ffordd gyda Dewi yn yr enw.

Her a hanner

Mae Arwel Lloyd eisoes wedi codi dros £300 i elusen ar ei dudalen justgiving.com, ond mae’n cyfaddef y bydd gigio a mynd ati gyda’r her gorfforol yn brawf a hanner.

“Dydi o ddim yn mynd i fod yn hawdd! Fe wnaethon ni rhywbeth tebyg dwy flynedd yn ôl [i’r un elusen], o Gaergybi i Abertawe, ac mi roedd o’n reit anodd,” esboniodd Arwel Lloyd.

“Ond y meddwl sy’n mynd yn hytrach na’r corff fel arfer, mae rhywun jyst yn blino. Syniad y daith ydi ein bod ni’n mynd i gynifer o lefydd â phosib o’r enw Dewi, felly ‘da ni ‘di mynd i Landdewi Efelffre ac mi fyddan ni’n mynd at Afon Dewi, i Gapel Dewi tu allan i Gaerfyrddin, a Llanddewi Brefi.

“Gobeithio wna i gyrraedd y targed [o £1,000] erbyn i fi orffen.”

Mae modd cyfrannu at ymgyrch Arwel Lloyd ar ei dudalen justgiving.com wrth ddilyn y linc.