Mae Ysgrifennydd Cymru, Stephen Crabb wedi dweud y gallai fod oedi cyn dechrau trydaneiddio’r rheilffordd rhwng Llundain ac Abertawe.

Roedd disgwyl i’r prosiect gael ei orffen erbyn 2018.

Ond mae Stephen Crabb yn mynnu bod Llywodraeth Prydain wedi’u hymrwymo i gwblhau’r prosiect er gwaetha’r oedi.

Dywedodd wrth raglen Sunday Politics: “Gallwn warantu y caiff ei drydaneiddio’r holl ffordd i Abertawe.

“Mae’r ymrwymiad hwnnw’n gadarn.”

Galwodd ar Network Rail i egluro pam fod oedi wrth geisio cwblhau’r prosiect.

“Y peth pwysig yw ein bod ni’n sicrhau ymrwymiad gwleidyddol cryf i orffen y prosiect a chwblhau’r trydaneiddio’r holl ffordd i Abertawe.”

Dywedodd nad oedd modd iddo ddweud yn sicr y byddai’r prosiect yn cael ei orffen erbyn y dyddiad sydd wedi’i bennu.