Fe fydd Pwyllgor Llywio Merched y Wawr yn trafod penderfyniad prif swyddog y mudiad i dderbyn MBE gan y Frenhines.

Fe gadarnhaodd Llywydd y mudiad, Meryl Davies, fod y pwnc ar agenda’r Pwyllgor yn Aberystwyth heddiw ar ôl i rai aelodau alw am drafodaeth.

Yn eu plith, roedd Eiris Llywelyn o Ffostrasol a ddywedodd fod yr anrhydedd i’r Trefnydd Cenedlaethol, Tegwen Morris, yn “tanseilio” y mudiad.

‘Gwasanaethau i iaith a diwylliant’

Derbyniodd cyfarwyddwraig cenedlaethol y mudiad, Tegwen Morris, sy’n enedigol o Ffaldybrenin ger Llanbedr Pont Steffan, yr anrhydedd am “wasanaethau i iaith a diwylliant yng Nghymru ac am wasanaeth gwirfoddol ac elusennol yn Aberystwyth a thramor.”

Roedd rhai aelodau wedi gofyn am drafodaeth ar y mater am eu bod nhw’n poeni am “natur yr anrhydedd.”

Roedden nhw’n poeni hefyd fod Merched y Wawr, sy’n sefydliad “Cymreig a Chymraeg i ferched”, wedi rhoi sêl bendith ar anrhydedd sydd, medden nhw, yn clodfori’r Ymerodraeth Brydeinig.

‘Peiriant mwrdro’

“Mae hyn yn gwbl groes i’r egwyddorion a goleddir gan Ferched y Wawr,” meddai Eiris Llywelyn, aelod o Ferched y Wawr y Garreg Wen ger Ffostrasol ac un o’r aelodau sydd wedi sgrifennu at y wasg am y mater.

Rwy’n gofidio ei fod [yr anrhydedd] yn tanseilio un o’r ychydig fudiadau Cymraeg a Chymreig sydd gennym.”

Roedd hi’n pryderu fod derbyn yr anrhydedd yn enw’r mudiad yn cefnogi’r “peiriant mwrdro a fu’n sarnu gwlad ar ôl gwlad, yn chwalu pobloedd, cymunedau ac ieithoedd.

“Mae’r anrhydeddau yma’n tarddu’n uniongyrchol o’r erchyllterau gwaethaf a gyflawnwyd gan Brydain ar draws y byd.”

‘Penderfyniad yr unigolyn’

Dywedodd Meryl Davies, Llywydd y Mudiad, wrth Golwg360 nad oedden nhw eisiau colli yr un aelod o’r mudiad yn sgil y digwyddiad hwn, ond ei bod hi’n deall yn llawn bod yr aelodau’n bryderus.

“Penderfyniad yr unigolyn oedd derbyn yr anrhydedd, a rhydd i bawb ei farn,” meddai.

Cymysg oedd ymateb Sylwen Lloyd Davies, Llywydd Anrhydeddus Merched y Wawr.

“Mae hi [Tegwen Morris] wedi gwneud llawer o waith da,” meddai. “Ond ro’n i’n bryderus ei bod hi wedi’i dderbyn e”.

Stori: Megan Lewis