Beddau'r rhai gafodd eu llofruddio yn Srebrenica
Ym mis Gorffennaf 1995, yng nghanol rhyfel yn yr hen Iwgoslafia rhwng Bosnia a Serbia, cafodd tua 8,000 o ddynion a bechgyn ifanc Mwslimaidd wedi’u llofruddio yn y gyflafan.

Daeth Srebrenica, cilfach Fwslimaidd ym Mosnia, dan reolaeth Lluoedd Serbia a dros y 10 diwrnod canlynol gwelwyd un o erchyllterau gwaethaf Ewrop ers yr Ail Ryfel Byd.

Yn rhinwedd ei swydd yn aelod o Gomisiwn y Cynulliad, roedd Rhodri Glyn Thomas AC yn rhan o ddirprwyaeth o aelodau aeth i Fosnia i gynrychioli’r sefydliad fis Ebrill.

Bydd gwasanaeth coffa yn cael ei gynnal heno (nos Fercher) yn y Senedd ym Mae Caerdydd hefyd i nodi 20 mlynedd ers yr hil-laddiad.

‘Erchyll’

Roedd ymweld â Srebrenica yn brofiad “eithaf erchyll”, yn ôl Rhodri Glyn Thomas. Bu iddo gyfarfod â rhai o’r rheiny a gafodd eu heffeithio gan y gyflafan.

“Fe ddechreuon ni ar ein taith ym Mosnia cyn mynd i Srebrenica yn y brifddinas,” meddai. “Roedd honno wedi ei heffeithio gan y rhyfel lle’r oedd Serbiaid wedi ei amgylchynu yn gyfan gwbl ac yn tanio yn ddigyfaddawd ar y gymuned leol am flynyddoedd lawer gan ladd nifer yn y fan honno.

“Cafodd 8,000 o Fwslemiaid eu llofruddio yn ddireswm. Mi wnes i gyfarfod â gwraig oedd wedi colli ei gŵr a’i meibion i gyd. Dyw rhai dal heb ddarganfod gweddillion eu hanwyliaid.

“Mae’r broses honno’n mynd yn ei blaen gyda gweddillion dal yn deillio o’r lladdfa.”

‘Codi cywilydd’

Roedd “ias oer” i’w theimlo yn Srebrenica, meddai, ac mae’r berthynas “anodd” yn parhau rhwng Bosnia a Serbia.

“Maen nhw wastad yn cael eu hatgoffa fod y Serbiaid 20 mlynedd yn ôl wedi cyflawni’r weithred erchyll yma,” meddai.

A ydi’r Bosniaid yn fodlon maddau erbyn hyn?

“Fe ddywedodd un o’r Serbiaid: ‘Dw i’n cael y cwestiwn yn aml’. Y gwir amdani yw does dim un o’r Serbiaid wedi gofyn am faddeuant, meddai. Mae’r Serbiaid am anghofio’r holl beth gan ei fod wedi codi gymaint o gywilydd arnyn nhw.”

‘Gwersi heb eu dysgu’

Synnwyd Rhodri Glyn Thomas gan Fwslemiaid oedd yn dweud bod “bywyd llawer yn well” ac yn “fwy heddychlon” o dan yr hen Iwgoslafia.

“Y garfan sydd wedi dioddef fan hyn a lle mae pobol wedi eu llofruddio’n gwbl ddiystyr ydi’r Mwslemiaid,” meddai.

“Erbyn hyn, mae yna duedd o fewn y Deyrnas Unedig i greu syniad bod Mwslemiaid yn fygythiad.

“Ugain mlynedd yn ôl fe gafodd 8,000 ohonyn nhw eu llofruddio gan Serbiaid. Mae hynny’n rhywbeth i’n hatgoffa ni nad ydi bygythiadau yn dod o un garfan a’i fod yn rhan o densiwn cyffredinol rhwng cymunedau’r dyddiau yma.”

Ac mae Rhodri Glyn Thomas yn ofni bod gwersi heb eu dysgu.

“Dyna oedd dymuniad mawr y bobol oeddem ni’n cwrdd â nhw, dyna pam oedden nhw’n hapus iawn i dderbyn dirprwyaeth o Gymru,” meddai.

“Roedden nhw eisiau i’r neges fynd allan beth oedd wedi digwydd, rhag bod e’n digwydd eto, a beth ydi’r peryglon o drais a bod pobol ddiniwed wastad yn dioddef.”

Stori: Gareth Pennant