Mae ymgyrchwyr wedi croesawu penderfyniad Llywodraeth Cymru i atal fferm wynt rhag cael ei hadeiladu ar dir comin ar gyrion Abertawe.

Roedd gan gwmni RWE Innogy UK ganiatâd cynllunio ar gyfer y fferm wynt ar Fynydd y Gwair ger Felindre, ond roedd angen sêl bendith i gyfnewid tir comin i’w wneud yn hyfyw.

Ond cefnogodd y Dirprwy Weinidog  Ffermio a Bwyd, Rebecca Evans, adroddiad arolygydd cynllunio ar y mater gan wrthod caniatáu i’r cwmni gynnig tir arall yn gyfnewid am y tir comin.

Ond er bod gwrthwynebwyr i’r cynllun yn dathlu’r penderfyniad, mae RWE Innogy UK wedi cadarnhau y bydd yn edrych i gyflwyno cais newydd.

Mae’r protestwyr, sydd wedi brwydro yn erbyn y cynllun yn ogystal â chynigion eraill am 24 mlynedd, yn dweud y dylai’r cwmni roi stop ar ei gynlluniau ar gyfer yr ardal.

‘Gwrando ar lais y bobl’

Dywedodd Glyn Morgan, un o’r ymgyrchwyr: “Rydym wrth ein boddau. O’r diwedd, maen nhw wedi gwrando ar lais a safbwyntiau’r bobl leol.

“Mae’r frwydr i achub Mynydd y Gwair wedi cymryd 24 mlynedd – 11 ohonynt gyda’r cais yma’n unig.

“Rwy’n gobeithio mai dyma’r diwedd. Mae’n amlwg nad yw pobl leol yn dymuno fferm wynt ar Fynydd y Gwair.”

Dywedodd y Cynghorydd Ioan Richard o Gyngor Sir Abertawe: “Mae’r penderfyniad hwn yn bwysig. Am 24 mlynedd, rydym wedi bod yn ymladd yn erbyn hyn.  Dyw rhai pobl ddim yn deall y gair na, ond dylai hyn gau pen y mwdwl.”

‘Siomedig’

Dywedodd rheolwr datblygu RWE Innogy UK, Gwenllian Elias, fod y penderfyniad yn “siomedig ac yn rhwystredig”.

Meddai: “Mae Mynydd y Gwair yn brosiect sydd wedi ei gynllunio’n dda ac o fewn ardal ddatblygu ddynodedig TAN 8 Llywodraeth Cymru.

“Mae eisoes wedi derbyn caniatâd cynllunio gan Ddinas a Sir Abertawe, a ‘sêl bendith’ yr Adran Ynni a Newid Hinsawdd am werth am arian y cynllun.

“Mae’r prosiect hwn yn cynrychioli cyllid buddsoddi o £50 miliwn yn ogystal â swyddi lleol, prentisiaethau a chyllid cymunedol blynyddol o £240,000.

“Bydd angen i ni adolygu’r rhesymau y tu ôl i’r penderfyniad gyda’r bwriad o ailgyflwyno cais tir comin newydd.”