Mae Dwr Cymru newydd gadarnhau fod y bibell ddwr sy’n cario cyflenwad dwr i gartrefi yn y Cymoedd, wedi’i thrwsio.

Roedd y bibell wedi byrstio yn ardal Cilfynydd yn hwyr brynhawn ddoe, gan adael cannoedd o gartrefi yn Llwynypia, Treorci, Tonypandy a Phentre heb ddwr.

Ond, yn ôl neges gan Dwr Cymru ar wefan gymdeithasol Twitter, mae’r cyflenwad bellach yn ei ôl, a hynny wedi beirianwyr fod yn gweithio trwy’r nos:

“Dylai cyflenwad pawb fod yn iawn erbyn hyn, ond mae ychydig o aer yn y pibellau a allai fod yn effeithio Cwm Clydach am beth amser eto. Gadewch i ni wybod os oes problemau pellach.”