Mae rhai aelodau Merched y Wawr wedi dweud wrth gylchgrawn Golwg eu bod yn “siomedig” bod Cyfarwyddwr Cenedlaethol y mudiad wedi derbyn anrhydedd MBE ar restr ben-blwydd y Frenhines eleni.

Fe gafodd Tegwen Morris, sy’n enedigol o Ffaldybrenin ger Llanbedr Pont Steffan, yr anrhydedd am ‘wasanaethau i Iaith a Diwylliant yng Nghymru ac am wasanaeth gwirfoddol ac elusennol yn Aberystwyth a Thramor’.

Mae un aelod o’r mudiad wedi dweud ei bod yn “drist iawn” o glywed y newyddion ac yn dweud ei fod yn “gic” i aelodau cyffredin fel hi.

“Rwy’n sylweddoli mai anrhydedd bersonol yw hon ac nad yw Merched y Wawr yn fudiad gwleidyddol ond roeddwn i’n teimlo’n drist iawn o glywed bod Tegwen Morris wedi derbyn MBE,” meddai Sian Roberts o bentref Trefor ger Caernarfon.

“Roedd deall bod Cyfarwyddwraig mudiad y mae cyfran helaeth o’i aelodau’n brwydro o ddydd i ddydd i gadarnhau ein hyder fel Cymry wedi derbyn ‘anrhydedd’ fel hon gan y sefydliad Prydeinig yn teimlo fel tipyn o gic.”

Colli “lot o gwsg” cyn derbyn MBE

Mae Tegwen Morris yn cyfaddef iddi golli cwsg cyn derbyn yr anrhydedd am ei gwaith gwirfoddol yn ogystal â’i gwaith gyda Merched y Wawr.

“Gydag anrhydedd fel yna rydych chi’n gorfod ei dderbyn e’n bersonol ond y gobaith yw nad ydych chi am ypseto neb trwy dderbyn rhywbeth o’r math yna,” meddai Tegwen Morris. “Y peth olaf fyddwn i mofyn ei wneud fyddai tynnu drwgdeimlad ynglŷn â’r peth.

“Dim ond rhyw ddau neu dri sydd wedi bod yn negyddol…golles i lot o gwsg dros y peth.”

Mae wedi cael dros 100 o lythyrau yn ei llongyfarch, a thua chant o negeseuon ar Facebook.

“Roedd mynd rownd Morrisons yn job ddoe,” meddai. “Roedd pawb mor gefnogol.”

Rhagor o’r stori hon gan Non Tudur yn rhifyn yr wythnos yma o gylchgrawn Golwg