Llun: Shelter
Mae angen i’r Llywodraeth wneud mwy i wella amodau tenantiaid yng Nghymru, meddai un o bwyllgorau’r Cynulliad.

  • Un o’r prif argymhellion yw fod y Llywodraeth yn sefydlu trefn haws ei defnyddio i setlo dadleuon.
  • Maen nhw hefyd wedi codi amheuon am y bwriad i ganiatáu i bobol 16 ac 17 oed gael bod yn denantiaid.
  • Ac maen nhw’n galw am gryfhau’r diffiniad o beth yw cyflwr derbyniol tai rhent.

Angen dewis arall

Mae’r Bil Rhentu Cartrefi sy’n mynd trwy’r Cynulliad ar hyn o bryd yn dibynnu gormod ar y llysoedd, meddai’r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol.

Ddylai tenantiaid a landlordiaid ddim gorfod mynd i lysoedd i sicrhau eu hawliau, meddai adroddiad y Pwyllgor.

Maen nhw wedi galw am drefn fwy hygyrch, hwylus a rhatach.

Cefnogi’r nod

Un o brif amcanion y Bil yw moderneiddio’r gyfraith bresennol a dod â gwahanol ddarnau o ddeddfwriaeth ynghyd.

“R’yn ni’n cefnogi nod y Gweinidog wrth gyflwyno’r Bil, ac r’yn ni wedi argymell y dylai symud ymlaen i’r cyfnod nesaf o’r broses drafod yn y Cynulliad,” meddai Cadeirydd y Pwyllgor, Christine Chapman.

“Ond r’yn ni wedi nodi nifer o bryderon yn ein hadroddiad, ac r’yn ni am i’r Gweinidog ystyried y rhain ymhellach.”

Pobol ifanc

“R’yn ni’n cymeradwyo nod y Gweinidog o helpu pobol ifanc i gael gafael ar eu llety eu hunain, ond yn ein barn ni, gallai fod yn amhosibl gweithredu’r cynigion hyn a gallent gael effeithiau anfwriadol,” meddai Christine Chapman.

Fe allai pobol mor ifanc â hynny wynebu problemau wrth geisio cael cytundebau nwy a thrydan ac yswiriant ac fe allai rhai fod heb eu gwarchod yn ddigonol.

“Fe ddylai’r Gweinidog sicrhau mai dim ond landlordiaid cymunedol all gynnig tenantiaethau i bobol ifanc 16 a 17 oed.

“R’yn ni’n credu y byddai hynny’n sicrhau bod pobol ifanc a allai fod yn agored i niwed yn cael eu diogelu ac yn cael y lefel gywir o gymorth.”