Ffos Noddun
Mae gwrthwynebwyr i gynllun trydan dŵr dadleuol ym Metws-y-Coed yn dweud ei fod yn mynd yn groes i bolisi cynllunio Cymru.

Dywed Coed Cadw fod y coetir hynafol yn Ffos Noddun yn unigryw a bod angen ei ddiogelu.

Mae gwrthwynebwyr yn gofidio y byddai’r cynllun yn dinistrio’r ardal sydd wedi’i dynodi’n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.

Mae’r ardal hefyd wedi’i gwarchod gan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad, sy’n gosod dyletswydd ar bob corff cyhoeddus i hybu cadwraeth.

Mae Coed Cadw wedi anfon llythyr at Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn nodi eu pryderon.

‘Popeth sydd orau am Eryri’

Dywedodd Rory Francis ar ran Coed Cadw: “Coedwigoedd hynafol ydi’r safleoedd pwysicaf a chyfoethocaf ar gyfer amrywiaeth helaeth o bryfed, adar, anifeiliaid, blodau a choed ac yn gartref i fwy o rywogaethau sydd dan fygythiad nag unrhyw gynefin arall yn y DU.

“Ni allwn fforddio colli nhw, ac ni fydd ffensio ardaloedd i adfywio’n naturiol byth yn gwneud yn iawn am eu colli nhw.

“Mae’n anodd meddwl am le sy’n well na Ffos Noddun o ran cynrychioli popeth sydd orau am Eryri.

“Mae’n wyllt a dramatig, ac eto yn hardd ac yn hygyrch, ac mae’n cael ei fwynhau gan niferoedd helaeth o bobl o bob lliw a llun.

“Mae lleoedd fel hyn yn gaffaeliad prin a dylid eu diogelu. Dyna pam ein bod yn galw ar bawb sy’n cytuno gyda ni i ysgrifennu at Awdurdod y Parc Cenedlaethol i annog iddo ddiogelu’r coetir hwn.”

‘Dim digon o fanylion’


Mae’r cynllun yn golygu y byddai dŵr yn cael ei dynnu o afon ger Gwesty’r Rhaeadr y Graig Lwyd ac yn cael ei ddychwelyd ger Pont yr Afanc.

Ond mae gwrthwynebwyr yn dweud nad yw’r Asesiad Effaith Amgylcheddol yn nodi digon o fanylion am y cynllun.

Mae Coed Cadw’n dweud y byddai maint yr ynni fyddai’n cael ei gynhyrchu trwy’r cynllun newydd yn gymharol fach – llai na 2% o’r hyn sy’n cael ei gynhyrchu gan fferm wynt Pen-y-Cymoedd.