Milwr a phlentyn, 1967. Llun: Philip Jones Griffiths/Magnum
Mae arddangosfa newydd sy’n dathlu bywyd a gwaith y ffotograffydd Cymreig enwog, Philip Jones Griffiths, yn agor yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth ddiwedd yr wythnos.
Roedd Philip Jones Griffiths, a fu farw yn 2008, yn enwog am ei bortreadau o ddioddefaint y bobl gyffredin yn ystod y rhyfel yn Fietnam. Fe gyhoeddodd gyfrol o’r delweddau hynny yn 1971 –  ‘Vietnam Inc.’ – ac mae rhai’n credu ei fod wedi helpu gwyrdroi’r farn boblogaidd am y rhyfel.

Bydd sleidiau a ffotograffau o’r llyfr ymhlith 100 o ddelweddau sy’n cael eu harddangos yn yr arddangosfa yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Yn ogystal, bydd enghreifftiau o’i waith cynnar a diweddar hefyd yn rhan o’r arddangosfa, yn ogystal ag eiddo personol Philip Jones Griffiths, fel ei gamerâu, papurau a thrugareddau eraill.

Cafodd Griffiths ei fagu ar aelwyd Gymraeg yn Rhuddlan, Sir y Fflint, ac fe hyfforddodd yn fferyllydd cyn troi at ffotograffiaeth. Erbyn y 1960au cynnar roedd wedi ennill ei blwyf fel ffotograffydd y wasg ac fe ymddangosai ei waith yn rheolaidd yn y papurau cenedlaethol.

Ym 1966 fe deithiodd i Fietnam, lle deimlodd i’r byw ddioddefaint y trigolion, oedd yn ei atgoffa o’i gyd Gymry yn ei dref enedigol.

‘Anghyfiawnderau rhyfel’

William Troughton sydd wedi curadu’r arddangosfa, sy’n cael ei chynnal ar y cyd gan y Llyfrgell ac Ymddiriedolaeth Philip Jones Griffiths. Meddai William Troughton: “Nid ffotograffydd rhyfel traddodiadol oedd Philip Jones Griffiths. Ei ddiddordeb pennaf oedd dangos effeithiau ac anghyfiawnderau rhyfel ar y trigolion cyffredin – mae ‘Vietnam Inc.’ yn glasur o gyfrol ac fe gafodd ddylanwad enfawr pan gafodd ei chyhoeddi gyntaf.

“Roedd Griffiths yn paratoi’n fanwl a bydd yr arddangosfa yn bwrw golau newydd ar ei waith. Fe deithiodd yn helaeth yn ystod ei yrfa – i dros 100 o wledydd – a bydd yr arddangosfa hefyd yn dathlu agweddau eraill ar ei yrfa ryfeddol.”

Bydd yr arddangosfa, Philip Jones Griffiths – Ffocws Cymreig ar Ryfel a Heddwch, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru o Ddydd Sadwrn, 27 Mehefin – 12 Rhagfyr.