Yr wyth sy'n cymryd rhan yn y gyfres cariad@iaith eleni
Mae S4C wedi cyhoeddi bod cyfres cariad@iaith eleni ar gael ar alw, ar-lein i wylwyr ar draws y byd.

Mae’r cyhoeddiad yn rhan o gynllun S4C i gynyddu’n sylweddol nifer y rhaglenni sydd ar gael y tu hwnt i’r DU, ynghyd â datblygu ap yn arbennig ar gyfer gwylwyr rhyngwladol.

Fe fydd hyn yn digwydd ochr yn ochr â datblygiadau eraill i wasanaethau gwylio ar-lein S4C; drwy’r wefan a thrwy brif ap y sianel.

Bydd y manylion llawn yn cael eu cyhoeddi ym mis Gorffennaf, i gyd-fynd â dau ddigwyddiad fydd ar gael i gynulleidfa ryngwladol; sef darllediadau o Sioe Frenhinol Cymru 2015 a chyfres o raglenni arbennig S4C sy’n nodi dathliadau blwyddyn Patagonia 150, yn eu plith ffilm Galesa a ffilm ddogfen sy’n dilyn taith y dringwyr Eric Jones ac Ioan Doyle i’r Wladfa.

‘Cynyddu’r arlwy i wylwyr tramor’

Meddai Elin Morris, Cyfarwyddwr Corfforaethol a Masnachol S4C: “Rydym yn ymwybodol o’r galw gan gymunedau Cymraeg a Chymreig ar draws y byd i weld cynnwys y sianel.

“Bu cynyddu’r arlwy sydd ar gael i wylwyr tramor yn un o’n hamcanion ers tro, ac rydym wedi bod mewn trafodaethau ers cryn amser i geisio sicrhau’r hawliau sydd eu hangen. Erbyn hyn, gallwn edrych ymlaen at wireddu’r cynllun, gyda chyhoeddiad llawn i ddilyn yn fuan.

“Er bod cyfyngiadau hawliau yn golygu na fydd ein holl raglenni ar gael, rydym yn gobeithio y bydd cynnydd sylweddol yn y ddarpariaeth ryngwladol dros gyfnod.”

Am y tro, bydd cyfres cariad@iaith ar gael i’w gwylio yn llawn yn y DU ac yn rhyngwladol ar wefan s4c.cymru – gyda’r bennod gyntaf ar gael ar-lein tan 17 Gorffennaf. Mae isdeitlau Saesneg ar gael ar y gyfres.

Yn cymryd rhan yn y gyfres cariad@iaith eleni mae wyth o enwau cyfarwydd sydd wedi cytuno i dreulio wythnos yng nghwmni ei gilydd yn dysgu Cymraeg.

Y rhai sy’n cymryd rhan yw’r cyflwynydd tywydd Derek Brockway, y cyflwynydd radio Chris Corcoran, yr actor a’r awdur Steve Speirs, y cyflwynydd CBeebies Rebecca Keatley, yr actores Nicola Reynolds, seren y West End, Caroline Sheen, yr athletwr Jamie Baulch a’r cyn-chwaraewr rygbi, Tom Shanklin.