Caryl Parry Jones
Mae ’na apêl am sgriptiau comedi byr wrth i BBC Radio Cymru ac S4C gynnal Sgript Slam Gomedi yn Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a’r Gororau 2015.

Mae’r gwahoddiad i awduron Cymru, boed yn awduron newydd neu brofiadol, i ysgrifennu sgript gomedi wreiddiol heb fod dim mwy na phum munud o hyd a ellid ei pherfformio gan ddim mwy na thri actor.

Does dim thema na ffiniau ac o’r holl geisiadau mi fydd S4C a BBC Radio Cymru yn edrych am y chwe sgript gryfaf, fwyaf doniol a chreadigol.

Bydd y sgriptiau llwyddiannus yn cael eu perfformio gan actorion proffesiynol o flaen cynulleidfa yn y Cwt Drama ddydd Mercher Awst 6 am 12.30 gyda Caryl Parry Jones yn arwain y sesiwn.

Y dyddiad cau yw dydd Llun, Gorffennaf 13 a dylid anfon y sgriptiau at sgriptslam@bbc.co.uk