Mae’r gantores o Abertawe, Celine Forrest ymhlith yr ugain o gystadleuwyr sy’n anelu am lwyddiant yng nghystadleuaeth Canwr y Byd, sy’n dechrau yng Nghaerdydd heddiw.
Yn ystod y gystadleuaeth sy’n para wyth niwrnod, bydd cantorion o Gymru, Ffrainc, yr Almaen, yr Eidal, Melita, Norwy, y Swistir, yr Unol Daleithiau, Canada, De Corea, Belarws, yr Wcráin, Twrci, Mongolia a De Affrica yn perfformio rhaglen o weithiau operatig a phoblogaidd.
Cafodd yr ugain terfynol eu dewis o blith 350 o ymgeiswyr gan y beirniaid Angela Livingstone, Isabel Murphy a Jeremy Caulton.
Bydd yr enillydd yn derbyn £15,000, ac enillydd y Wobr Cân yn derbyn £5,000.
Bydd y rownd derfynol yn cael ei chynnal yn Neuadd Dewi Sant nos Wener, Mehefin 19.
Y cystadleuwyr:
Marina Pinchuk, mezzo-soprano (Belarws)
Nadine Koutcher, soprano (Belarws)
Aviva Fortunata, soprano (Canada)
Anais Constans, soprano (Ffrainc)
Sebastian Pilgrim, baswr (Yr Almaen)
Roberto Lorenzi, bas-baritôn (Yr Eidal)
Nico Darmanin, tenor (Melita)
Amartuvshin Enkhbat, baritôn (Mongolia)
Ingeborg Gillebo, mezzo-soprano (Norwy)
Regula Muehlemann, soprano (Y Swistir)
Kelebogile Besong, soprano (De Affrica)
Insu Hwang, bas-baritôn (De Corea)
Jaeyoon Jung, tenor (De Corea)
Jongmin Park, baswr (De Corea)
Ilker Arcayurek, tenor (Twrci)
Oleksiy Palchykov, tenor (Yr Wcráin)
J’nai Bridges, mezzo-soprano (Yr Unol Daleithiau)
Lauren Michelle, soprano (Yr Unol Daleithiau)
Ryan Speedo Green, bas-baritôn (Yr Unol Daleithiau)
Celine Forrest, soprano (Cymru)