Mae dyfodol gwaith glo ger Glyn Nedd yn y fantol wrth i’r perchnogion gychwyn ar gyfnod o ymgynghori gyda glowyr ynghylch eu swyddi.

Cyflogir tua 60 o weithwyr yng Nglofa Aberpergwm gan gwmni Walters Energy o America.

Mae adain de Cymru o Undeb Cenedlaethol y Glowyr wedi cael gwybod bod cyfnod o 30 diwrnod o ymgynghori yn cychwyn heddiw.

Dywedodd Aelod Cynulliad Castell Nedd ei bod yn mawr obeithio bod modd achub swyddi.

“Rydw i’n aros am drafodaethau rhwng yr undebau a’r rheolwyr, ac yn croesi bysedd y cawn ni ganlyniad positif,” meddai Gwenda Thomas.

Bu i tua 300 o weithwyr golli eu swyddi yng Nglofa Aberpergwm yn 2012.