Mae dynes wedi marw ar ôl i’w char wyro oddi ar y ffordd a tharo coeden ym Mhowys nos Fercher.

Cyhoeddodd y gwasanaethau tân fod y ddamwain wedi digwydd ar yr A483 yn Llananno, rhwng pentref Llanbister a Llanbadarn Fynydd sydd mewn ardal wledig rhwng y Drenewydd a Llandrindod.

Cafodd yr heddlu, parafeddygon a chriwiau tân eu galw i’r digwyddiad tua 10yh neithiwr.

Bu farw’r ddynes yn y fan a’r lle. Nid oedd cerbyd arall yn gysylltiedig a’r ddamwain.

Roedd y ffordd ar gau am rai  oriau wrth i’r heddlu ymchwilio i achos y ddamwain.

Mae’r ffordd bellach wedi agor.

Mae Heddlu Dyfed Powys yn apelio ar unrhyw un a welodd y ddamwain i’w ffonio ar 101.