Kirsty Williams
Mae arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru wedi dweud bod rhaid ystyried sefydlu corff newydd i arolygu’r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.

Daeth ei sylwadau yn dilyn adroddiad damniol a gyhoeddwyd wythnos diwethaf  am y gofal gafodd ei roi i gleifion yn uned iechyd meddwl Tawel Fan yn Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan.

Roedd teuluoedd y cleifion yno’n dweud bod eu hanwyliaid yn cael eu trin fel anifeiliaid.

‘Sgandal’

Meddai Kirsty Williams wrth raglen Good Morning Wales ar Radio Wales y bore ma fod yr adroddiad yn “sgandal” gan ychwanegu fod Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) wedi methu sicrhau fod cleifion yn cael y gofal gorau.

Dywedodd Kirsty Williams, sy’n aelod o Bwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Cynulliad, fod “angen ystyried os yw Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, yn ei ffurf bresennol, yn addas at y diben ac yn gallu darparu’r sicrwydd sydd ei angen.”

Dywedodd hefyd fod angen edrych ar sefydlu corff newydd sy’n annibynnol o’r Llywodraeth.

‘Heb ymateb yn ddigon cynnar’

Yn sgil cyhoeddi’r adroddiad, dywedodd Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru nad oedd wedi llwyddo “canfod ac ymateb i bryderon ar adeg digon cynnar yn yr achos hwn.”

Ond ers achos Tawel Fan, dywedodd yr Arolygiaeth ei fod wedi cynyddu nifer yr arolygiadau mae’n ei gyflawni.

Meddai Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru mewn datganiad ei fod wedi “ymrwymo i ddarparu system gadarn ac effeithiol o archwilio ar gyfer pobl Cymru.”

Aeth ymlaen i ddweud fod adolygiad annibynnol gan Ruth Marks yn ystod 2014 wedi “cadarnhau bod gwelliannau sylweddol wedi cael eu gwneud ac yn parhau i gael eu gwneud ers y cyfnod heriol a gafodd eu hadlewyrchu yn ymchwiliad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ym mis Tachwedd 2013.”

Meddai’r datganiad: “Cadarnhaodd Ruth Marks hefyd fod rôl a phwrpas AGIC yn briodol, ond awgrymodd y dylid cael ystyriaeth fwy sylfaenol o fanteision iechyd gyda’i gilydd a rheoleiddiwr gofal cymdeithasol.

“Mae ei adroddiad hefyd yn gofyn cwestiynau pwysig ynghylch a oedd angen i ni gryfhau ein hannibyniaeth.

“Rydym yn croesawu’r Papur Gwyrdd a gynlluniwyd gan Lywodraeth Cymru, ac rydym yn edrych ymlaen at y cyfle i gymryd rhan mewn ymgynghoriad eang ar y ffordd ymlaen.”